Mae effaith yr argyfwng costau byw i’w weld ym mhobman erbyn hyn, ac mae pawb yn teimlo’r straen ariannol ar eu bywydau. Efo teuluoedd yn gorfod penderfynu rhwng bwyd neu gynhesu’r tŷ, mae’n amlwg fydd y gaeaf hwn yn un anodd i nifer fawr ohonom.
Er duwch y sefyllfa, mae Caffi Riverbank Tregaron yn barod i frwydro yn erbyn yr argyfwng. Maent wedi agor eu breichiau a chynnig cymorth i’r rheini sydd eu hangen fwyaf. Ar ddydd Gwener y 18fed o Dachwedd fe sefydlodd Riverbank Cafe and Farm Siop eu chynllun “Cosy Cwtch”.
Bwriad y cynllun yw cynnig man diogel a chynnes i’r cyhoedd dros y gaeaf gan fydd llawer methu cynhesu na bwydo eu hunain i safon dderbyniol o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau trydan, bwyd ac olew. Felly i helpu yn erbyn yr oerfel mi fydd Riverbank yn cynnig uwd twym yn y bore a chawl cynnes yn y prynhawn er mwyn i bobl cael pryd o fwyd cynnes. Hefyd mae yna Tê, Coffi neu sgwosh ar gael efo’r ddau bryd o fwyd.
Hefyd, i godi ysbryd mi fydd nifer o weithgareddau i adlonni’r cyhoedd. Mi fydd yna gemau i’w chwarae a chyfle i fod yn greadigol trwy liwio lluniau i mewn. Bydd y cynllun hefyd yn gyfle gwych i siarad efo pobol eraill o fewn ei’n cymuned- felly mi fyddwch yng nghwmni da yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae’r holl gynllun yn rhad ac am ddim ac mae yna gynnig a chroeso i bawb, plant ac oedolion.
Yn ogystal i fwyd, mae Riverbank hefyd yn cynnig llinyn dillad er mwyn cadw’n gynnes ôr ol gadel y siop, efo dillad fel cotiau a siwmperi ar gael am ddim. Mae’r caffi yn annog chi i gynnig rhoddion o hen ddillad nad ydych yn eu gwisgo rhagor fel eu bod nhw yn cael defnydd gwell man arall.
Mi fydd y cynllun yn gweithio ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Llun 3yh-6yh
Dydd Mercher 9:30yb-12yh
Dydd Gwener 3yh-6yh