Mae’r bwrlwm wedi cyrraedd Bont! Ar ol dechrau cynnar ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, mae’r cyffro yn adeiladu!
Tro’r cneifwyr nofis oedd hi’n gyntaf gyda 5 yn mentro ar y ‘stand’, braf rhoi cyfle i’r rhai newydd i gneifio a chael cyfle i gystadlu.
Nesa oedd tro y trin gwland, cystadleuaeth newydd yma yn Cneifio Bont a braf yw gweld niferoedd uchel wedi cofrestru a trafaeli o bell.
Byddwn ni’n eich diweddaru trwy gydol y dydd, felly cadwch lygaid allan!
Bola’n llawn… bant a ni unwaith eto gyda’r cneifio.
Rhagbrofion yr adran hyn newydd ddechrau. Y pafiliwn yn llanw nawr â phawb yn edrych ymlaen i weld y cystadlu brwd.
Rowndiau cynderfynol yr adran iau a’r adran ganol newydd orffen.
Hoi dros ginio nawr cyn ail ddechrau gyda rhagbrofion yr adran hyn am 2:30.
Dewch draw am wâc!
Adran canol wedi bod wrthi gyda 6 rhagbrawf i gyd gyda Dylan Abel a Ieuan Davies o Swyddffynnon a Llyr Ebenezer o Langeithio yn cystadlu’n lleol.
Ar rowndiau gynderfynol yr adrian iau a canolig nesaf cyn cinio. Bydd yr adrian hyn yn dechrau ar ôl cinio.
Y menwod yn cadw trefn ar bopeth, y gwaith pwysig o gadw amser, marciai bwrdd a trefn y cneifwyr!
Tro yr adrian iau yw hi nawr, gyda lan i 40 yn cystadlu! Nifer o fechgyn lleol wrthi, yn cynnwys William Caron, ry’ ni eisioes wedi son am ei dalent rygbi, Ieuan Davies Swyddffynnon, Jac Issac Tyngraig a Steffan George Lledrod, Rhys Ebenezer a Carwyn Lloyd o Langeithio.
Pob lwc i chi gyd a cadwch lygaid am yr enwau yma dros y canlyniadau!
Mlaen i’r adran canolradd nesaf!
Dewch draw am flas o’r bwrlwm, mae wedi llenwi ac mae’r bar wedi agor!