Bwrlwm Cneifio Bont

Diweddariadau byw trwy gydol y dydd o Bont

Gwenan Evans
gan Gwenan Evans
9EEDA041-16FE-447A-9E22

Cneifwyr nofis i agor y diwrnod

Mae’r bwrlwm wedi cyrraedd Bont! Ar ol dechrau cynnar ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, mae’r cyffro yn adeiladu!

Tro’r cneifwyr nofis oedd hi’n gyntaf gyda 5 yn mentro ar y ‘stand’, braf rhoi cyfle i’r rhai newydd i gneifio a chael cyfle i gystadlu.

Nesa oedd tro y trin gwland, cystadleuaeth newydd yma yn Cneifio Bont a braf yw gweld niferoedd uchel wedi cofrestru a trafaeli o bell.

Byddwn ni’n eich diweddaru trwy gydol y dydd, felly cadwch lygaid allan!

11:43

47F82652-92A4-4F95-BD84

William Caron wrthi, yn llaw chwith!

FF07F066-925A-4027-81C4

Adrian Iau

Tro yr adrian iau yw hi nawr, gyda lan i 40 yn cystadlu! Nifer o fechgyn lleol wrthi, yn cynnwys William Caron, ry’ ni eisioes wedi son am ei dalent rygbi, Ieuan Davies Swyddffynnon, Jac Issac Tyngraig a Steffan George Lledrod, Rhys Ebenezer a Carwyn Lloyd o Langeithio. 

Pob lwc i chi gyd a cadwch lygaid am yr enwau yma dros y canlyniadau!

Mlaen i’r adran canolradd nesaf!

Dewch draw am flas o’r bwrlwm, mae wedi llenwi ac mae’r bar wedi agor!