gan
Lowri Jones
Dyma ddigwyddiad lleol fu’n codi hwyl cyn ymweliad y brifwyl â’r ardal – yn gyfle i ddod â phobol leol ynghyd unwaith eto ac ailgynnau ein diwylliant wedi Covid.
I ddathlu hynny fe gafodd pawb oedd yn bresennol ddarn o Arian y Cardi!
Arian newydd yw hwn gan Fanc y Ddafad Ddu – y banc hynaf yng Nghymru, sydd â’i wreiddiau yn Nhregaron.
Mae wedi’i greu gan yr Eisteddfod Genedlaethol fel ffordd o dalu nôl i bobol Ceredigion am gefnogi digwyddiadau codi hwyl yn lleol.
Os ydych chi’n awyddus i drefnu digwyddiad bach hwyliog i godi hwyl yn eich ardal chi, cymerwch olwg ar y syniadauyma (neu ewch ati a chynnal beth bynnag chi’n moyn!) a chofiwch gysylltu â Lowri i archebu bwndel o Arian y Cardi i’w dosbarthu yn eich digwyddiad.