Mae’r trydydd Sadwrn ym mis Mai wedi sefydlu yng nghalendrau pobol Cymru bellach fel penwythnos TregaRoc! Mi ddylai’r dre’ fach â sŵn mawr fod yn ferw gwyllt o gerddoriaeth Gymraeg a phobl yn teithio o bob cwr o’r wlad i fwynhau’r arlwy. Ond yn anffodus, nid fel yna y bu hi eleni.
O ganlyniad i’r pandemig a’r holl gyfyngiadau dyma’r ail flwyddyn yn olynol i ni golli allan ar ddiwrnod a hanner o gymdeithasu a mwynhau cerddoriaeth ddiweddaraf y sîn roc Gymraeg. Yn ôl Deina Hockenhull, un o drefnwyr yr Ŵyl,
“Yn amlwg mae’n siom nad oes modd cynnal yr Ŵyl eleni ond rhaid glynu at ganllawiau iechyd a diogelwch a byddai’n amhosib gadael cannoedd o bobl i mewn i’r dref. Rhaid sicrhau diogelwch y cyhoedd yn hyn o beth”.
Mae Mared Rand Jones, un arall o’r criw yn edrych ymlaen at 2022,
“Mae 2022 yn mynd i fod yn flwyddyn fawr i Dregaron ac erbyn hynny mi fydd pawb yn ysu am gael mwynhau darn bach o ddiwylliant Cymru boed yn ŵyl gerddorol, sioe amaethyddol neu ddigwyddiad tebyg”.
Mae TregaRoc wedi llwyddo i ddenu amrywiaeth o artistiaid gorau’r wlad dros y blynyddoedd a bydd TregaRoc 2022 ddim gwahanol! Hir yw pob aros, ond mi fydd Tregaron yn dre’ fach â sŵn mawr unwaith yn rhagor – dim ond mater o amser.
Edrychwn ymlaen at gael rocio ar Fai 21ain, 2022. Nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron, nawr!
Rhannwch eich atgofion o’r ŵyl dros y blynyddoedd gyda ni heddiw drwy rannu lluniau, clipiau fideos ayb.