Taith Rhodri

Clwb Seiclo Caron yn cefnogi elusen Tir Dewi

Manon Wyn James
gan Manon Wyn James

Bydd Clwb Seiclo Caron yn trefnu taith seiclo arbennig Ddydd Sadwrn 14 Awst  i gofio am gyn aelod o’r clwb Rhodri Davies.

“Ma’ Clwb Caron yn falch o drefnu digwyddiad er cof am Rhodri,” meddai Gwion James, Cadeirydd Clwb Seiclo Caron. “Roedd Rhodri yn aelod poblogaidd a ffyddlon o Glwb Caron ers y cychwyn yn 2013, roedd yn gwmni da ar daith feics ac mae’n golled hebddo”

Cylchdaith 50 milltir sy’n wynebu’r seiclwyr-   rhwng Tregaron, Llanybydder a Thyngraig. Er mwyn creu her i bawb, mae cyfle seiclo un, dwy neu dair cylchdaith. Bydd yr her tair cylchdaith sef 150 milltir yn dechrau am 6 y bore, yr her 100 milltir am 10 y bore, a’r her 50 milltir am 2 y prynhawn.  Yn ogystal, bydd taith gymdeithasol/teuluol 20 milltir yn dechrau am 2 y prynhawn.

“ Y syniad yw cynnig rhywbeth i bawb, gyda’r bwriad y bydd pawb yn gorffen tua’r un amser rhwng 4 a 5 y prynhawn” meddai Gwion.

Ac os nad ydych chi am seiclo mae modd dod i safle Mart Tregaron yn ystod y prynhawn i gefnogi.

Hoffai Clwb Caron ddiolch i’r noddwyr- DAG Jones Mart Tregaron, Caron Stores, Cigydd Evans,  Cigydd Simon Hall Llambed, Cigydd Dai Davies, Dunbia, Spar, Wynnstay, FUW Ceredigion ac NFU Tregaron. Diolch yn arbennig i Glenys Jones, Clwb Rygbi Tregaron am drefnu’r arlwyo, bydd bwyd ar gael trwy gydol y dydd yn y Clwb Rygbi.

Mae holl elw’r digwyddiad yn mynd tuag at elusen cymorth gwledig Tir Dewi.  I gyfrannu ar-lein mae tudalen Just Giving wedi ei hagor:   justgiving.com/fundraising/clwbseiclocarontaithrhodri