Mae’n siwr eich bod chi wedi clywed erbyn hyn am dalent Gwenallt Llwyd Ifan; yn fardd ac yn bysgotwr. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol AmGen yr wythnos ddiwethaf, fe gipiodd Gwenallt Llwyd Ifan y Gadair, hynny yn yr Eisteddfod oedd i fod yng Ngheredigion; Tregaron!
Wedi ei fagu ar fferm Penrallt yn Nhregaron, yn gyn Brifathro yn yr Ysgol Uwchradd, mae e bellach yn byw yng Ngogledd y Sir, yn Nhalybont. Yn ei amser rhydd, mae Gwenallt yn bysgotwr gwych ar lyn ac ar fôr, ond barddoni yw ei ‘beth’.
Nid dyma’r tro gyntaf iddo eistedd yn y Gadair Genedlaethol, ar ol iddo ennill am y tro gyntaf yn 1999. Yn ddyn bishi, fe lawnsiodd gyfrol o farddoniaeth yng nghynt yn y flwyddyn sef DNA. Llyfr llawn angerdd, golygfeydd a delweddau cynnes, mae’n werth ei darllen. Beth am i ni glywed mwy am ddylanwad a thalent y Prifardd?
1. Faint o ddylanwad ma’ Tregaron a’r fro yn dal i gael arnoch chi?
Yn naturiol, cafodd ardal Tregaron ddylanwad mawr arnaf fel bardd. Mae llawer iawn o fy ngwaith i yn cynnwys cyfeiriadaeth at fyd natur a magwraeth. Mae’r awdl ‘Pontydd’ a enillodd Cadair Genedlaethol 1999 i mi yn enghraifft berffaith o hynny. Roedd y fagwraeth ym Mhenrallt yn un hapus ac iach a chefais gyfle i ddarllen barddoniaeth ar yr aelwyd oherwydd bod dad hefyd yn hoff iawn o ddarllen ac yn medru adrodd cerddi hir iawn ar ei gof.
Yn yr ysgol gynradd, dan brifathrawiaeth Ben Richards, cefais gyfle gwych i ddarllen llyfrau chwedloniaeth Groeg, ac mae’r diddordeb hwnnw yn para tan heddi. Yn Ysgol Uwchradd Tregaron gwnaeth Glyn Ifans, y Prifathro, dreulio amser gyda fi yn trafod barddoniaeth. Ni wn hyd heddi pam, na beth welodd ef ynof i i dreulio’r amser hwnnw gyda fi, ond byddaf yn ddiolchgar iddo tra byddaf, am hynny. Roedd Gillian Jones a Gerald Morgan hefyd yn ddylanwadau mawr arnaf – Gillian am gynnau’r diddordeb yn y gynghanedd a Gerald am gynnau fy niddordeb mewn drama. Mae elfennau dramatig a gweledol yn codi yn aml yn fy marddoniaeth. Rwy’n dal yn ddigon ffodus i fedru ymweld â theulu a chrwydro glannau Teifi a mynyddoedd Ffair Rhos o hyd.
2. Ydych chi’n ddyn papur a phensil wrth fynd ati i ysgrifennu, neu a ydych chi wedi troi at laptop/ffôn?
Tipyn o’r ddau, er y dyddiau hyn, rwy’n troi at y gluniadur yn fwyfwy. Ysgrifennais yr awdl hon yn gyfangwbl ar gyfrifiadur o’r cychwyn i’r diwedd. Y trueni gyda hynny yw nad oes cofnod o ddatblygiad y gerdd gan fod pob drafft yn disodli’r newid diwethaf.
3. Beth yw y broses o ysgrifennu i chi? Sut byddwch chi’n mynd ati?
Ryw’n credu yn gryf bod y broses o greu yn digwydd yn yr isymwybod. Y cam cyntaf yw cael syniad ac wedyn gadael iddo weithio yn yr isymwybod hyd nes bod y gerdd yn barod i ddod allan. Clywais Gwenlyn Parry yn dweud rhywbeth tebyg pan oeddwn yn ddisgybl yn yr ysgol. Rwyf wedyn yn gweld y gerdd yn ffurfio o ran siâp a chynnwys yn fy meddwl. Wedyn, rwy’n mynd ati i ysgrifennu, ail-ddrafftio, mireinio a rhoi sglein ar y gerdd. Yn aml mae’r ysgrifennu yn digwydd yn gyflym iawn a’r ailddrafftio yn cymryd llawer mwy o amser.
4. O ble mae’r ysbrydoliaeth yn dod?
O bobman ac o bopeth. Rwy’n ysgrifennu llawer am bobl, natur ac yn fwyfwy am Gymru a chyflwr ein gwlad. Mae cael testun ar gyfer cystadlu yn y Talwrn neu ymryson yn help mawr ac yn fy ngorfodi i i feddwl am rywbeth newydd i’w ddweud, ond mae barddoni bob dydd ac ymarfer y grefft yn golygu fy mod yn ysgrifennu am bob math o bethau.
5. Faint o amser dreuliaist yn ysgrifennu’r awdl?
Oherwydd y pandemig, ni chyhoeddwyd y testun tan mis Mawrth eleni, felly dim ond dau fis oedd gennyf i ysgrifennu’r awdl hon yn lle’r naw mis arferol. A dweud y gwir, wnes i ddim dechrau ysgrifennu’r gerdd tan ddiwedd mis Ebrill. Daeth y syniad wedi imi redeg i ben mynydd Gwylwyr yn Nefyn ddechrau mis Ebrill, ac wedyn bu’r syniad yn troi yn fy mhen am bythefnos cyn i mi ddechrau ysgrifennu. Cwblheais y gerdd mewn tair wythnos wedyn. Record i fi! Roedd hi’n ras i orffen a chael hi i mewn. Buaswn wedi hoffi cael mwy o amser i weithio mwy arni.
6. Sut brofiad odd cael seremoni o’r fath hyn eleni?
Roedd y profiad yn wych ac yn wahanol iawn i’r tro cyntaf i mi gael fy nghadeirio. Ym Môn yn 1999 roedd pedair mil o bobl yn y pafiliwn ac roedd gorymdeithio drwy’r maes wedyn yn brofiad a hanner. Yn anffodus, bryd hynny roedd ein mab a’n merch, Elis ac Esther, yn fach iawn a heb fod yn rhan o’r dathlu. Eleni, roedd eu cael nhw a Delyth, fy ngwraig, yn bresennol yn stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd i rannu’r profiad yn goron ar y cyfan. Roedd hi’n seremoni bersonol ac urddasol iawn ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r Orsedd a’r Eisteddfod am hynny. Cawsom ein trin fel brenhinoedd gan y BBC hefyd ac roedd y sylw a roddwyd i’r awdl yn deilwng iawn ganddynt – peth pwysig iawn i fardd.
Diolch i Gwenallt am ei amser.