Dydd Sant Caron Hapus!

Oes dŵr sanctaidd yn Nhregaron?

Eglwys Sant Caron

Dydd Sant Caron Hapus!

 

A hithau’n 5ed o Fawrth fe ddylwn ddymuno Diwrnod Sant Caron hapus i chi gyd. Ond pwy oedd y dyn yma, a pham ei gofio ar y 5ed?

Aeth Caron360 i holi Cyril Evans i gael yr hanes:

Mae llu o ddamcaniaethau gwahanol wedi’u gwneud amdano dros y canrifoedd. Credai rhai mai pennaeth neu frenin ydoedd, eraill mai esgob ydoedd. Mae hyd yn oed sôn mai milwr Rhufeinig ydoedd a bechodd yn erbyn yr Ymerawdwr gan ffoi i Brydain, gan ddigwydd dod â thrysor yr Ymerawdwr gydag ef!

Roedd gan Gymru cysylltiadau agos â’r Iwerddon, ac mae damcaniaeth pellach yn dweud mai Sant Cieran o Iwerddon oedd y sant gwreiddiol, a bod yr enw wedi’i gamdreiglo (sillafu) dros y canrifoedd i Carawn ac wedyn i Caron? Mae’n siŵr na fyddwn byth yn sicr o’r tarddiad gwreiddiol, ond mae pawb o’r farn iddo farw ar y 5ed o Fawrth 219 O.C., a’i gladdu o dan y twmpath lle adeiladwyd yr eglwys bresennol.

Gan fod dyddiadau’r seintiau mor bwysig yn yr Eglwys Gatholig, fe gynhaliwyd Ffair Garon ar y 16eg o Fawrth.

Dyddiad rhyfedd gan feddwl iddo farw ar y 5ed o Fawrth? Y rheswm? Pan fabwysiadwyd y calendr newydd yn 1752 gan ddisodli’r hen galendr, fe barhawyd gyda’r hen ddyddiad yn Nhregaron – fel y mae rhannau o Gymru dal yn dathlu’r Hen Galan.

Roedd Ffair Garon yn un o ffeiriau mwyaf Cymru ar un adeg, ac yn parhau am dri diwrnod.

Hyd at tua dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd un arferiad wedi parhau yn lleol er gwaethaf y Protestaniaid. Byddai’r plant yn (gorymdeithio ac yn) ymweld â Ffynnon Garon ar Ddydd Gwener y Groglith gyda siwgr brown a chwpan, lle byddent yn “yfed y dŵr a siwgwr.” Yn ogystal, cofnodir y byddai cariadon yn mynd at y ffynnon ar Sul y Pasg gan roi anrheg o fara gwyn i’w gilydd cyn yfed y dŵr.

Mae hon yn un o bedair ffynnon iachusol ym mhlwyf Tregaron, ac mae cysylltiadau’r hen Gymry gyda’r ffynhonnau sanctaidd yma yn mynd yn ôl miloedd o flynyddoedd, ac yn wir gellir dadlau i oes cyn-Gristnogol.

Mae hyn i gyd yn cael ei ategu yn y darganfyddiadau presennol sy’n cael eu gwneud ar safle a thirwedd Abaty Ystrad Fflur sydd gerllaw.

Pan ledwyd y ffordd allan o Dregaron i Lambed yn 1991 gan Gyngor Sir Dyfed,  fe ail adeiladwyd y ffynnon, a bellach mae yna ffens bren o’i hamgylch. Mae llwybr bach cul yn arwain i lawr ati ger y fynedfa i Glan Brennig. Pan ddefnyddiwyd y ffynnon ddiwethaf, doedd dim sôn am reolau iechyd a diogelwch, felly tybed beth yw safon y dŵr erbyn heddiw?’

Diolch i Dafydd Morgan am glirio’r drysni o amgylch y ffynnon yn ddiweddar.