Mae ymgynghoriad wedi agor yn gofyn am eich barn am le i adleoli dwy garreg goffa o Hen Ysgol Uwchradd Tregaron.
Mae dwy goflech wedi’u gosod ar wal y tu mewn i Hen Ysgol Uwchradd Tregaron. Maent yn coffáu’r cyn-ddisgyblion a gollodd eu bywydau wrth frwydro yn y ddau Ryfel Byd.
Cofebion rhyfel yw’r coflechi hyn ac maent wedi’u cofnodi yn Rhestr Genedlaethol Cofebion Rhyfel y Deyrnas Unedig.
Ymddiriedolaeth ‘Hen Ysgol Sirol Tregaron’ yw perchennog yr Hen Ysgol a bydd yn cael ei gwerthu cyn hir gan Gyngor Sir Ceredigion, sef ymddiriedolwr yr eiddo, felly mae angen cartref newydd ar y coflechi.
‘Mewn angof ni chânt fod’
Nod yr ymgynghoriad yw casglu barn pobl leol am leoliadau pwrpasol i adleoli’r coflechi fel y gall y gymuned leol a’r cyhoedd yn gyffredinol eu gweld a chofio’r rhai a fu farw am genedlaethau i ddod.
Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Ceredigion a Chynghorydd ardal Tregaron: “Mae’r ddwy garreg yma yn rhan fawr o hanes Tregaron am eu bod yn coffáu cyn-ddisgyblion yr ysgol a gollodd eu bywydau yn y rhyfeloedd. O ganlyniad, mae’n bwysig ein bod yn casglu barn y bobl leol am y lle gorau i’w gosod er mwyn gallu parhau i’w coffáu am genedlaethau i ddod. Yng ngeiriau’r gofeb – ‘Mewn angof ni chânt fod’. Rwy’n eich annog i gwblhau’r arolwg a’i rannu â ffrindiau ac aelodau o’r teulu.”
Llenwi’r arolwg
Cymerwch ran yn yr arolwg a agorodd ddydd Llun, 01 Tachwedd 2021, ac a fydd yn parhau am bedair wythnos: Ymgynghoriad ar Goflechi Hen Ysgol Uwchradd Tregaron