Diolch Maureen

Clerc Cyngor Llanddewi Brefi’n ymddeol

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
Maureen, ein Cwîn

Maureen, ein Cwîn

Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi yn ein Cinio Nadolig

Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi yn ein Cinio Nadolig

Maureen

Cerdd i ddiolch i Maureen

Ffarweliodd Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi â Chlerc arbennig iawn eleni, sef Maureen Davies. Rhoddodd Maureen bum mlynedd ar hugain o wasanaeth i’r Cyngor Cymuned, a bu’n gefn i sawl Cadeirydd a chynghorydd ar hyd yr amser.

Yn ein cinio Nadolig blynyddol, derbyniodd Maureen anrheg, blodau a cherdd i ddiolch am ei gwasanaeth diflino.

Mae’r Cyngor Cymuned yn dymuno ymddeoliad hapus iddi ac yn diolch am wasanaeth arbennig iawn.