gan
Fflur Lawlor
Mae Mrs Heulwen Bulman wedi ymddeol fel Clerc Cyngor Tref Tregaron wedi bron i un deg saith mlynedd o wasanaeth.
Oherwydd cyfyngiadau y pandemig, ni fu’n bosib cynnal digwyddiad i ddiolch iddi tan ddiwedd mis Mehefin, lle cawsom gyfle i gyflwyno anrheg i ddangos ein gwerthfawrogiad o’i gwasanaeth. Cawsom noson hwyliog yn y Clwb Bowlio gan gadw at reolau COVID.