Enw: Sara Stephens
Cartref: Caerdydd
Teulu: Gŵr, 1 mab, Cai (3 oed)
Gwaith: Prifysgolion Cymru, yn gweithio ar brosiectau rhyngwladol, yn bennaf gydag India ac Ewrop
Disgrifia dy hun mewn tri gair. Ffyddlon, emosiynol, penstiff
Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Bod mas ar y beics ym Mhwllswyddog drwy’r haf a seiclo i Gors Caron neu Landdewi
Hoff raglen deledu pan oeddet yn blentyn.
Roland Rat. Bu raid i Dad fynd yr holl ffordd i Toys R Us, Bryste, i brynu tegan Roland Rat i fi pan o’n i’n 4, ac mae e’n dal i fod yn barchus hyd heddi.
Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.
I wneud dy orau glas
Beth oedd y peth ofnadwy wnes ti i gael row gan rywun?
Cofio cal fy anfon lan at y prifathro yn y Chweched, credu fy mod i wedi mynd adre rhwng gwersi? Dw i ddim yn meddwl ei fod e’n rhywbeth ofnadwy!
Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus?
Mewn gŵyl, mas yn seiclo, neu yn Barcelona! Dw i wedi bod yno o leiaf 20 o weithiau naill ai mewn gŵyl, gyda gwaith neu i weld ffrindiau.
Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?
Mynd o weithio mewn swyddfa i weithio o adre bob dydd, fel sawl un arall. Y peth anoddaf oedd methu teithio, a methu dod adre i Dregaron yn aml i weld Dad, fy chwaer a’i theulu. Ond dw i’n lwcus iawn ar y cyfan, yn teimlo dros bobl ifanc yn ystod y cyfnod rhyfedd yma.
Y peth gorau am yr ardal hon?
Y tirwedd gwyrdd, a bod yn agos at y môr. Dw i’n gwerthfawrogi’r ardal yn fwy ers gadael pan o’n i’n 18 oed. Hefyd, ble bynnag dw i’n mynd, dw i wastad yn dod ar draws rhywun sydd â chysylltiad â’r ardal, ni Dregaroniaid ym mhobman!
Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Yn fy arddegau, o’n i’n gweld hi’n boen gorfod dibynnu ar liffts i Aber os oedden i a ffrindie am fynd i’r sinema/bowlo ayyb. Ond rodd hi’n golygu ein bod ni’n gyd yn pasio’n prawf gyrru cyn gynted â phosib – sdim pawb yn gwneud hynny os ydyn nhw’n byw yn y ddinas!
Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden?
Ar y foment, dw i’n treulio pob penwythnos mewn rhyw barc neu’i gilydd, ond os fysen i’n cael dewis, dw i’n hoffi siopa, mynd i gigs neu fynd mas am fwyd gyda ffrindie.
Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen?
Dw i ddim yn deall pobl sydd ddim yn dweud helo nôl os chi’n cyfarch nhw. Dyw e ddim yn lot o ymdrech!
Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?
Carafan/motorhome swanc, ac agor siop lyfre
Beth sy’n codi ofn arnat?
Siarad yn gyhoeddus, hedfan, a chorynnod
Pryd llefaist ti ddiwethaf?
Dw i ‘di bod yn emosiynol yn gwylio Line of Duty’n ddiweddar!
Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?
Gweithio’n Senedd Ewrop am saith mlynedd.
Wyt ti’n difaru rhywbeth?
Dw i’n trio peidio difaru dim, mae bywyd yn rhy fyr.
Beth yw dy gyfrinach i gadw’n heini?
Dw i’n bell o fod yn heini. O’n i wastad gyda’r olaf/gwaethaf yn y gwersi ymarfer corff yn yr ysgol. Heblaw am chwarae tenis!
Beth yw’r cyngor gorau a roddwyd i ti?
Yr athrawes gyrfaoedd yn cynghori fi i fynd nôl ac ail-edrych ar fy mhwnc astudio’n y Brifysgol. Ro’n i wedi dewis i astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth, ond ar ôl ail-feddwl, newidiais i ‘Astudiaethau’r Undeb Ewropeaidd’ yng Nghaerdydd. Yn sgil fy ngradd, ces i gyfle i fyw yn Ffrainc a Sbaen am gyfnodau byr a gweithio ym Mrwsel. Diolch i Mrs Phillips am y cyngor doeth!
Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?
Dod yn fam. Mae popeth wedi newid ers hynny.
Beth yw dy hoff air?
Demprus (am ddillad cras) Doedd fy ngŵr erioed wedi clywed y gair o’r blaen!
Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?
Huw Stephens? Ha! Na, o ddifrif, Hywel Gwynfryn – roedd e’n arfer bod yn gymydog i ni. Neu Dylan Garner!
Beth yw dy ddiod arferol?
Coffi, neu win gwyn
Beth yw dy hoff bryd o fwyd?
Cyri/bwyd Indiaidd
Sut wyt ti’n ymlacio?
Darllen, scrolo trwy’r cyfrynge cymdeithasol, a chysgu!
Pa wefan wyt ti’n ymweld â hi fwyaf aml?
BBC Weather. Dw i’n eithaf obsesd gyda’r tywydd!
Eich gwyliau gorau?
Trip mis mêl hwyr i California am dair wythnos, pum mlynedd yn ôl. Hedfan i San Fransisco a gyrru lawr ar hyd yr arfordir i Los Angeles. Gymaint o uchafbwyntiau fel seiclo ar hyd Venice Beach, ymweld â’r Magic Castle yn LA, a gweld Courtney Cox!
Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen?
Ar y foment, dw i’n gwylio Call My Agent ar Netflix, am asiantaeth sy’n cynrychioli actorion enwog ym Mharis. Mae’r Ffrancwyr yn gwneud i fi chwerthin lot. Y llyfr sydd wedi aros gyda fi ers ei ddarllen yw A Little Life gan Hanya Yanagihara. A dw i hefyd yn argymell pawb i ddarllen O! Tyn Y Gorchudd gan Angharad Price. O’n i yn fy nagrau’n darllen y ddau!
Mae Sara wedi enwebu Fflur Lawlor ar gyfer mis nesaf.