Ar ddiwrnod Calan Gaeaf, dim chwarae triciau na gwisgo lan oedd pwrpas taith Merched Soar o amgylch ein bro, ond yn hytrach, canu.
Canu a chynnig adloniant i’r rhai sydd wedi methu gadael eu cartrefi ers cyn y pandemig.
Aeth criw o’r côr merched lleol i gartrefi gofal Cysgod y Coed, Abermad a Phennal View i ganu i’r preswylwyr a’r staff. Emynau a chaneuon ar y thema Diolchgarwch oedd ar y rhaglen, ac er y glaw a’r gwynt, cafwyd 3 chyngerdd (o fath) llwyddiannus.
Yn amlwg, doedd dim hawl gyda’r côr i ganu yn yr adeiladau, felly canu o flaen drysau a ffenestri oedd ein hanes.
Cafwyd croeso cynnes ym mhob cartref, gyda’r preswylwyr i gyd, gan gynnwys y rhai di-Gymraeg yn arddangos eu gwerthfawrogiad, gan ddweud pethau fel;
“Ni’n joio mas draw!”
“Ma’ sopranos da gyda chi!”
“That was beautiful.”
“Chi’n dod nôl ‘to adeg Nadolig?”
“I love hearing choirs!”
Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymweld eto ac roedd hi’n deimlad hyfryd cael perfformio’n fyw unwaith eto ar ôl methu canu i gynulleidfa ers mor hir.
Cofiwch, mae croeso i unrhyw un ymuno â’r côr. Rydyn ni’n cwrdd bob yn ail nos Fawrth yn Festri Bwlchgwynt, Tregaron.