gan
Fflur Lawlor
Mae bwrdd cyfathrebu newydd wedi cael ei leoli ym Marc Chwarae Tregaron.
Mae’r prosiect cyffrous hyn, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn bartneriaeth rhwng Adran Therapi Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion a’r Cynghorau Cymuned.
Bwriad y bwrdd yw i wneud ein llefydd chwarae yn fwy cyfeillgar i gyfathrebu. Bydd hyn yn helpu’r bobl sydd yn ffeindio cyfathrebu yn anodd i gael ffordd weledol i gyfathrebu, yn ffordd dda i ddysgu geirfa ac iaith i’n plant ifanc a gan ei bod yn ddwyieithog yn ffordd rhwydd i’n teuluoedd di-gymraeg ddysgu geirfa syml. Mae 15 bwrdd yn cael eu gosod o gwmpas y sir, felly cadwch lygad allan amdanynt!
Os hoffech fwy o wybodaeth am y prosiect yma cysylltwch â Mererid.davies@wales.nhs.uk