Buddsoddi mewn Banc….

Bywyd newydd i hen adeiladau Tregaron.

Gwion James
gan Gwion James
Mewn dwylo saff!- Annwen Evans yn y Banc
Gwaith adfer safonol
Crown Stores 1897 (llun gan Cyril Evans)

Er bod y banciau wedi cau, mae bwrlwm eto yn yr adeiladau wrth i bobl leol fentro a datblygu busnesau newydd yn Nhregaron.

Gweledigaeth y cigydd lleol Annwen Evans yw Y Banc sydd ar safle adeilad ysblennydd Banc Barclays ar y sgwâr yn Nhregaron.

Ers prynu’r adeilad yn 2018 mae buddsoddiad wedi gweddnewid yr adeilad i fwyty a llety hunan ddarpar, gan gadw nifer o nodweddion gwreiddiol yr hen adeilad. Mae Y Banc ar fin agor ei drysau fel bar a chegin gyfoes, ac mae Annwen yn awyddus i greu argraff ar y sgwâr.

 “Rwy’n dod o gefndir arlwyo ac o ni’ ise agor bwyty a bar yma yn Nhregaron. Mae nifer o bobl ifanc yn symud ffwrdd i ddatblygu busnesau ond mae cyfleoedd gwych i gael yma yn lleol hefyd. “

Mae hanes y teulu Evans yn rhedeg yn ddwfn yn yr adeilad. Cyn cyfnod Banc Barclays safai ‘Castle Stores’ ar y safle lle dechreuodd Rees Evans siop gigydd yn 1897.

“Erbyn hyn fi yw’r pumed genhedlaeth o gigyddion yn y dre” meddai Annwen, “mae’n rhyfedd sut mae’r rhôd yn troi ond mae’n grêt i gael yr adeilad nôl yn y teulu i’r dyfodol”

Wrth i Annwen barhau i edrych am Chef cyn agor y bwyty,  bydd Y Banc yn agor Dydd Sul nesa y 5ed o Ragfyr ar gyfer Ffair Nadolig.

“Bydd nifer o fusnesau lleol yn gwerthu nwyddau” meddai, “Ma croeso i bawb alw mewn am ddiod ac i neud bach o siopa Nadolig”