Pwy all gredu fod un o eiliadau mwyaf yr Ewros hyd yn hyn wedi digwydd ym Mhontrhydfendigaid! Nid perfformiadau Bale a ddaeth i’r penawdau yr wythnos ddiwethaf ond anffawd unigolyn bach o’r Bont. Wrth i ddarllenwraig gyfweld â dau o arwyr Clwb pêl-droed Bont yn fyw tu allan i’r Red Lion, mi lithrodd Rhodri Morgans ar y grisiau yng nghefn y ‘Red’ a disgyn i’r llawr a hynny’n fyw ar S4C!
Braf yw gallu dweud bod Rhodri yn iawn, ond mae e wedi derbyn tipyn o sylw am ei anffawd! Ers y digwyddiad, mae’r clip wedi ei weld ar draws y byd ac mae Newyddion S4C hyd yn oed wedi clyfwed â Rhodri er mwyn sicrhau ei fod yn iawn! Mae Rhodri yn ddilynwr brwd o bêl-droed yn lleol a chenedlaethol ac es i draw am sgwrs fach gyda fe am yr Ewros a’r llithriad!
1. Beth wyt ti’n meddwl bydd tynged Cymru dydd Sul?
Fi’n credu fod Denmarc wedi ymateb yn wych ar ôl y lluniau a welon ni o Christian Eriksen yn y gêm gynta. Rhoddon nhw gêm dda i Wlad Belg, cyn sgorio 4 yn erbyn Rwsia. Mi fydd hi’n cymryd person dewr i ysgrifennu Cymru ffwrdd. Dwi’n meddwl eith hi i amser ychwanegol, efo Cymru yn ennill trwy gôl gan Dan James.
2. Pwy sydd wedi serenni dros Gymru hyd yn hyn?
Y ddau sy’n sefyll allan i fi yw Danny Ward a Joe Rodon, yn enwedig o ystyried eu bod nhw heb gael llawer o funudau i’w clybiau y tymor diwethaf.
3. Heblaw Cymru wrth gwrs, pwy ti’n meddwl bydd y pencampwyr?
Ar hyn o bryd mae’n edrych yn debygol y bydd Ffrainc a’r Eidal yn yr un hanner. Dwi’n tybio taw’r enillydd allan o enillwyr y gêm yna fydd gyda’r Almaen yn y ffeinal o’r ochor arall.
4. Beth yw’r sypreis fwyaf i ti yn y twrnament hyd yn hyn?
Y sioc fwyaf oedd perfformiadau Twrci, yn enwedig ar ôl i bawb siarad amdanyn nhw fel “dark horses” y twrnament. Heblaw hynny mae popeth wedi mynd fel o’n i’n disgwyl.
5. Pa mor bell wyt ti’n rhagweld Cymru’n mynd?
Os curwn ni Denmarc, mae’n edrych yn debygol y byddwn yn wynebu’r Iseldiroedd yn yr wyth olaf. Fi ddim yn credu fod llawer amdanyn nhw, yn enwedig heb Virgil Van Dijk yn yr amddiffyn. Ma’ nhw’n edrych fel eu bod nhw’n gadael gôl i mewn pob gêm. Os bydde nhw ddim mewn grŵp mor wan bydde fe ddim yn syndod i fi petai nhw wedi gorffen tu allan i’r ddau uchaf. A gyda hynny, ni’n breuddwydio am weld Cymru mewn rownd cynderfynol arall!
6. Petai tîm Cymru 2016 yn chwarae yn erbyn tîm Cymru 2021 pwy fydde’n ennill?
Ma’ hi’n mynd i gymryd tipyn i edrych heibio tîm 2016 yn enwedig gan taw dyna o’dd y tro cyntaf i fwyafrif o’r wlad weld Cymru yn chware mewn twrnament mawr. Achos hynny, a gyda Bale, Ramsey ac Allen yn eu ‘prime’ na’i ochri gyda thîm 2016.
7. Beth yw rhagolygon Bont am y tymor sydd i ddod?
Wna’i gadw ffwrdd o siarad am Bont, ond ma’ tymor o ddyfarnu o’m mlaen i eleni.
8. Gobeithio gefaist ti ddim gormod o anaf wrth lithro ar y grisiau! Ges di sioc dy fod wedi derbyn cymaint o sylw? Tua faint sydd wedi gwylio’r clip erbyn hyn?
O’dd hi’n dipyn o sioc deffro’r bore wedyn a chofio beth ddigwyddodd! Ges i ddim anaf a dwi heb golli unrhyw barch wedi’r digwyddiad. Fi wedi cal cwpwl o beints am ddim gyda’r Red am y cyhoeddusrwydd am ddim! Pan edryches i y tro d’wetha o’dd dros 170k o views wedi bod ar Twitter.
9. Ble wyt ti am wylio’r gêm ddydd Sul?
Yn y ‘Red’ bydda i eto am y gêm nos Sadwrn. Fi byth yn hoffi gwylio gemau Lerpwl na Chymru adre – ma’ hyn yn un o’r ofergoelion sydd gen i!
Diolch yn fawr i Rhodri am ei amser a phob lwc i Gymru yng ngweddill y twrnament.