Mae criw blaengar Cylch Meithrin Tregaron wedi trefnu Bingo awyr agored er mwyn codi arian tuag at adnoddau’r Ysgol Feithrin newydd sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.
Cynhelir y Bingo ym maes parcio’r mart ar Nos Wener 17eg Mehefin am 7 yr hwyr.
“Mae angen edrych ar ddigwyddiadau codi arian o bersbectif newydd eleni,” meddai Emyr Lloyd o bwyllgor y Cylch Meithrin. “Ma dal angen codi arian, ond oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ni wedi methu cynnal digwyddiadau ers dros 15 mis. ”
“Ma croeso i bobl ddod yn eu ceir, pick ups neu treilers. Os nagych chi’n berchen un o rheiny – dewch â chadair! Ma rhagolygon y tywydd yn addo’n dda a ma ’na ddau dderyn yn galw’r Bingo felly bydd digon o sbri, ” meddai Emyr. “Gofynnwn i bawb i barchu’r rheolau pellter cymdeithasol a chadw at eu ‘swigen’ nhw. “
Mae’r cyfnod COVID-19 wedi bod yn ddiflas yn gymdeithasol felly mae’n grêt i weld mudiadau yn defnyddio eu dychymyg i drefnu digwyddiadau amgen er mwyn i bobl allu cwrdd yn ddiogel unwaith eto.