Yr Eisteddfod mwyaf hir ddisgwyliedig erioed…
Dydd Sadwrn Gorffennaf yr 7fed oedd hi, pan dorrodd y newyddion mai Tregaron fyddai cartref Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion. Byddai neb wedi rhagweld y byddai’n rhaid aros tair blynedd amdani. Ond yn sicr yr Eisteddfod hon fydd yr un mwyaf hir ddisgwyliedig mewn hanes.
Yr Eisteddfod mwyaf glân erioed…
Gyda diheintwyr dwylo a mygydau bellach yn rhywbeth cyffredin mae safonau glendid pawb wedi newid am y gorau. Bydd Eisteddfod Tregaron yn dod i’r brig fel un o’r Eisteddfodau mwyaf glân a welwyd erioed.
Yr Eisteddfod i ddenu’r sylw mwyaf ar y cyfryngau…
Gyda’r Eisteddfod wedi ei gohirio ddwy flynedd yn olynol, mae Tregaron wedi denu sylw’r cyfryngau cenedlaethol am un o’r cyfnodau hiraf erioed, o’i chymharu ac unrhyw dref arall fu’n gartref i’r Eisteddfod o’r blaen. Mae criwiau ffilmio i weld ar hyd y dref yr wythnos hon unwaith eto, ac fe fyddan nhw nôl eto blwyddyn nesa!
Campweithiau dan glo…
Mae’r gweithiau ar gyfer y prif seremonïau wedi eu cloi i ffwrdd ers 2020. Bydd yn rhaid i’r beirdd a llenorion aros tan flwyddyn nesaf i weld os ydynt wedi bod yn llwyddiannus…
Yr Eisteddfod mwyaf cyfeillgar erioed…
Tre fach yw Tregaron, ond un o’r trefi mwyaf cyfeillgar erioed. Ar ôl dwy flynedd o fwlch, dyma’r lle perffaith i groesawu Cymru gyfan ynghyd i ddathlu’r Brifwyl.
Yr Eisteddfod orau erioed…
Yr aros, y cyffro, y cynllunio, y trefnu, y codi arian, y bwrlwm. Bydd pawb yn barod am Eisteddfod yn 2022 a does dim amheuaeth mai Eisteddfod Ceredigion yn Nhregaron fydd yr Eisteddfod Orau erioed.
Ydyn, ry’n ni’n dal i aros, ond ry’n ni’n barod amdani yn 2022.