“Mae fy mhreswylfa artistig yn Ystrad Fflur wedi cyfoethogi fy niddordeb gyda Genius Loci. Genius Loci yw’r argraff y mae cymeriad neu awyrgylch unigryw lle yn cael ar y meddwl, y corff a’r enaid.”
Magwyd Rebecca yn Aberarth ac felly mae’r cysylltiad rhwng Aberarth ag Ystrad Fflur wedi bod yn rhan o’i hysbrydoliaeth sbel cyn iddi ymweld â’r Abaty, a gweithio yno fel artist preswyl. Roedd mynachod Ystrad Fflur yn ‘pysgota yno (yn Aberarth) 800 mlynedd yn ôl,’ felly mae’r cyswllt iddi hi fel artist o Aberarth a hanes y mynachod yn amlwg yn yr arddangosfa sydd yn ymateb i’r lleoliad hwn.
Mae Rebecca wedi gwneud ei hymchwil yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi ymchwilio i hanes Ystrad Fflur a hanes y mynachod, ac wedi ystyried y pwysigrwydd o leoliad ac ysbryd y lleoliad hanesyddol hwn.
Es i i gwrdd â Rebecca yng nghanol glaw mân ar ddiwrnod o haf ym mis Awst, ar ddiwrnod agor yr arddangosfa yn swyddogol i’r cyhoedd, a chefais sgwrs ddifyr iawn gyda hi fel y gwelir yn y ffilm.
Mae’r arddangosfa yn Abaty Ystrad Fflur tan fis Medi.
Ceir mwy o wybodaeth am Rebecca Wyn Kelly ar ei gwefan neu ar Instagram rebeccawynkelly
Ac am yr arddangosfa ar Wefan Cadw