Er na fydd yr Eisteddfod yn ymgartrefu yn Nhregaron ymhen wythnos, daeth llygedyn o normalrwydd heno (28ain o Orffennaf) wrth i’r Ŵyl gyhoeddi’r sawl a fydd yn cael eu hurddo’n rhan o Orsedd y Beirdd. Ac mae wynebau cyfarwydd o fro Caron yn eu plith!
Mae’r Orsedd yn rhan annatod o’n diwylliant ac mae derbyn gwahoddiad i fod yn aelod yn fraint o’r radd flaenaf. Anrhydeddir pobl sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r iaith Gymraeg a Chymru.
Yn ôl yr Eisteddfod, y rheswm dros gyhoeddi’r rhestr heddiw oedd er mwyn “cyd-ddathlu eu llwyddiant a’u hanrhydedd” gan “edrych ymlaen at gyfnod pan allwn ddod ynghyd yn ddiogel er mwyn eu hurddo yn y ffordd draddodiadol”.
Digon o amser felly i longyfarch y pum aelod o’r rhestr sydd â’u gwreiddiau’n ddwfn yn yr ardal hon!
Yn derbyn y wisg werdd y bydd Rhiannon Evans, Wynne Melville Jones a Huw Rhys-Evans.
Mae Rhiannon Evans, Blaenpennal, neu Rhiannon ‘Tregaron’ i lawer ohonom, wedi rhoi’r dref ar y map gyda’i gemwaith cain. Sefydlwyd y busnes yn 1971, gyda Gemwaith Rhiannon a Chanolfan Cynllun Crefft Cymru yn galon i dref Tregaron. Bu hefyd yn gweithio’n frwd dros ddatblygu economaidd gwledig, trwy gyd-sylfaenu ‘ATOM Tregaron’ yn y 70au ac yn fentor i Awdurdod Datblygu Cymru.
Un arall sy’n enwog am ei ddawn o greu yw Wynne Melville Jones. Efe yw ‘Tad Mistar Urdd’ gan mai ef greodd y symbol bach eiconig. Sefydlodd gwmni cyfathrebu dwyieithog cyntaf Cymru sef StrataMatrix a chyd-sefydlu Banc Bro. Ers ymddeol, ail-gydiodd yn ei ddawn arbennig o arlunio, gyda’i weithiau’n aml wedi’u hysbrydoli gan y fro hon a Cheredigion.
Tenor byd-enwog yw Huw Rhys-Evans, ond yn hanu’n wreiddiol o blwyf Llanddewi Brefi. Mae’n gyfarwydd iawn â’r Eisteddfodau fel cyn-enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts a beirniad profiadol. Mae’n dysgu canu i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain ac yn parhau i godi arian at achosion Cymraeg yn Llundain yn rheolaidd.
Bydd dau o’r ardal hefyd yn derbyn y wisg las sef Cyril Evans ac Anne Gwynne. Mae cyfraniad Cyril Evans i’r ardal yn amhrisiadwy, nid yn unig trwy’i swydd am bron i ddeng mlynedd ar hugain yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond trwy ymroi i bob agwedd o weithgarwch Tregaron. Mae’n weithgar gydag Eisteddfod Gadeiriol Tregaron ac yn un o’r rhai sy’n cadw Ysgoldy Llanio ar agor.
Mae Anne Gwynne wedi mynychu, trefnu a chofnodi toreth o weithgarwch lleol ers dros hanner canrif. Mae’n aelod o Ferched y Wawr Bronant, Cymdeithas Hanes Tregaron a Chymdeithas Edward Llwyd, lle bu’n casglu deunydd a chreu archifau gwerthfawr.
A dyna ni, y pum aelod newydd haeddiannol i Orsedd y Beirdd, sy’n hanu o’n hardal fach ni. Er y bydd rhaid iddynt aros blwyddyn i wisgo un ai’r wisg werdd neu’r wisg las, cânt flwyddyn gyfan i fwynhau’r anrhydedd, i gyffroi’n lân… ac i ddewis pa esgidiau i wisgo!