Y syniad oedd i BOB grŵp Strictly dwi wedi’u dysgu – Llanilar 1, 2 a 3, Rhoshelyg, Plascrug, Aberaeron, Tregaron, Bont – ac unrhyw un arall gael gwersi dawns digidol gen i yn ystod y cyfnod clo. Roedd pawb a fuodd yn dysgu neu ailddysgu’r rwtîns wedyn yn ffilmio eu hunain i greu cyfanwaith o ddawnswyr Strictly y gorllewin!
Fe wnaethon ni ddechrau gyda’r Country, cyn symud ymlaen at y Jeif a gorffen gyda’r Charleston.
Buon ni’n cwrdd bob nos Iau am dri mis yn ymarfer, un ddawns bob mis. Es i ati i yn anfon fideo o’r ddawns at bawb i’w helpu ar eu ffordd a’r cyfan oedd rhaid iddyn nhw ei wneud oedd ffilmio’u hunain yn dawnsio rhan neu’r cyfan o’r ddawns i’r trac cerddoriaeth! Yna byddai pawb yn ei anfon yn ôl ata i.
Cafwyd ymateb gwych gyda dros 20 o bobl yn ymuno dros y cyfnod clo i gyd, a llwyddwyd i godi dros £300 i’r GIG hyd yn hyn! Gallwch gyfrannu at yr achos da yma.
Ar ôl i mi dderbyn yr holl glipiau aeth Tomos a minnau ati i olygu’r dawnsfeydd i greu dawnsathon o holl rwtîns Strictly 2020 cyn eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol. Sialens a hanner!
Mae’r clip yma’n ein dangos ni wrthi gyda’r Country! ?
A dyma ni’n joio jeifo!