Cyfle i ddod i adnabod Gareth Davies o Fronant sy’n creu cacennau anhygoel yn ei siop newydd.
Mae Gareth Davies o Fronant wedi penderfynu agor siop gacennau yng nghanol y pandemig.
Agorodd Let Them See Cake yng Nghaerdydd fis Hydref eleni ac mae’r ymateb wedi bod tu hwnt i bob disgwyl.
Gyda dros ddeg mil o ddilynwyr Instagram a phobl yn ciwio tu allan bob amser, mae galw mawr am gacennau Gareth.
“Fi wedi cael gymaint o sioc gyda’r ymateb i Let Them See Cake”, meddai Gareth sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ddylunio cacennau.
“Ma’ fe’n lyfli a dweud y gwir. Mae’r siop mor fishi – ma’ fe’n literally mental!”
Cynnig cysur mewn cyfnod anodd
Yn ôl y pobydd ifanc, mae’r pandemig wedi gweithio o blaid agor siop gacennau.
“Ma’ pawb moen treat. Ma’ pobol yn haeddu sbwylio eu hunen yn yr amser ‘ma.”
Nid yn unig y danteithion sydd o’r safon ucha’, ond mae’r adeilad ei hun hefyd yn wledd i’r llygad. Mae’r siop yn binc o’i chorun i’w sawdl gyda phlanhigion, blodau a chalonnau yn addurno’r lle.
“Ma’r siop mor lliwgar felly ma pobol moen dod mewn. Ni’n gobeithio bod Let Them See Cake yn brofiad hapus i bobl.”
“Mor bwysig i ddeall cymuned”
Cafodd Gareth ei fagu yn Esgairfynwent, Bronant lle mynychodd Ysgol Gynradd Lledrod, Ysgol Sul Capel Rhydlwyd ac Ysgol Uwchradd Tregaron.
Iddo ef, mae’r gymuned glos yng nghefn gwlad wedi’i helpu wrth sefydlu busnes ei hun.
“Ma’ bywyd cefn gwlad definitely wedi ca’l dylanwad arna i a’r ffordd fi’n gweithio.”
“Ma’ fe wedi helpu fi i greu cymuned yma yng Nghaerdydd. Ma’ fe mor bwysig i ddeall cymuned achos wedyn ma’ pawb yn dod at ei gilydd ac yn helpu.”
Yng nghanol yr holl brysurdeb, nid yw ef a’i gariad, Ryan, yn cael y cyfle i ddod nôl i Fronant yn aml. “Dwi ddim yn mynd adre lot rhagor. Fydden i’n hoffi dod adre mwy i ddweud y gwir.”
Gyda’r geiriau ‘Helo Shwmae’ wedi’u gosod yn falch yn ffenest y siop, mae’n ddiolchgar am y fagwraeth Gymraeg a gafodd yn y Gorllewin.
“Ma’r Gymra’g hefyd yn bwysig. Ers agor y siop yn Victoria Park, ma’ lot mwy o bobol yn siarad Cymraeg o’n cwmpas ni. Ma’n help mawr i’r busnes.”
Felly, os am groeso Cymraeg a chacen flasus yng Nghaerdydd, dyma’r lle perffaith i chi!