Aled Morgan Hughes sydd wedi bod wrthi’n olrhain effaith Ffliw Sbaen ar Geredigion, gan edrych yn benodol yma ar hynt a helynt y ffliw ar ardal Tregaron.
Tawel fu caeau Tregaron gychwyn Awst eleni, a hynny yn sgil y penderfyniad i ohirio’r Eisteddfod Genedlaethol o ganlyniad i bandemig COVID-19 – yr argyfwng iechyd mwyaf difrifol ers helynt Ffliw Sbaen 1918-19. Tra fod effaith a dylanwad COVID-19 ar Dregaron a’r cylch, fel gweddill Cymru, wedi bod yn ddigynsail, pa ffawd wynebodd yr ardal union ganrif yn ôl wrth wynebu her inffliwensa Ffliw Sbaen?
Gan ymddangos ar droad 1918, lledaenodd Ffliw Sbaen i bedwar ban byd; o gyflafan y Rhyfel Byd Cyntaf yn Fflandrys, i bellafoedd ynysoedd anghysbell y Cefnfor Tawel. I’r rheiny a fu dioddef o’r haint byddai’r symptomau yn aml ddigon brawychus; y croen yn tywyllu, yr ysgyfaint yn mygu ar hylifau, a marwolaeth yn aml yn dilyn o fewn diwrnod neu ddau – neu hyd yn oed oriau. Bu farw degau o filiynau o’r ffliw yn rhyngwladol, a dros 10,000 yma yng Nghymru.
Profwyd anterth y ffliw mewn tair prif don. Go fwyn bu’r don gyntaf yn Haf 1918, ac er lledu i rai dinasoedd megis Glasgow a Manceinion, di-nod bu ei effaith ar mwyafrif o gymunedau’r cyfnod. Adlewyrchwyd hyn mewn adroddiad gan swyddog meddygol Ceredigion, a nododd yn 1919:
“There were two distinct epidemics. The first occurred in July and August which were very mild and characterized by the almost complete absence of catarrh and the small mortality. No deaths were registered as due to influenza in Aberystwyth during these two months.”
Fel Aberystwyth, ni chafwyd unrhyw gofnod na chrebwyll o bresenoldeb y don gyntaf, fwyn, hon yn ardal Tregaron ychwaith.
Yn hytrach, bu’n rhaid aros tan ddiwedd yr Hydref 1918 am y cofnod cyntaf o Ffliw Sbaen yng Ngheredigion – gyda rhifyn Tachwedd 1af o’r Cambrian News yn adrodd fod “rapid advance” o ail don yr inffliwensa wedi ei brofi mewn amryw o ardaloedd o’r sir. Gyfochr a’r datganiad yn rhybuddio am ledaeniad y ffliw, cafwyd hefyd adroddiad manwl gan Dr L. Meredith Davies (prif swyddog meddygol y sir) a chynigai fewnwelediad diddorol i’r camau y dylai trigolion eu dilyn mewn ymateb i’r haint:
“On first suspecting influenza the best advice is ‘keep warm; go to bed and stay there.’ Take an aperient e.g. Calomel, 1.2 grains at night, followed by Epsom salts in the morning. Call in a doctor. Ammoniated quinine is good, also a glass of hot lemon water at night while in bed. Gargle the throat with a diluted disinfectant. Plenty of fresh air is good but avoid draughts…
..Do not expectorate in public. Infected handkerchiefs, after use, should be well boiled or soaked in carbolic or burnt. Isolation – A person with influenza should occupy a room apart from the rest of the household. Do not go to work or go to school if influenza is suspected.”
Er ymdrechion sensori gan y wladwriaeth Brydeinig i dawelu newyddion am ledaeniad y ffliw, erbyn ganol Tachwedd 1918 byddai colofnau’r Cambrian News yn prysur lenwi â straeon am hynt a helynt yr haint – gydag achosion (a marwolaethau) ar dwf – a chamau’n cael eu canlyn gan awdurdodau’r cyfnod i fynd i’r afael â lledaeniad yr haint.
Ddechrau Tachwedd cafwyd gorchymyn gan yr awdurdod addysg lleol i gau ysgolion ledled y sir, tra mewn trefi megis Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan aethpwyd ati i ohirio amryw o ddigwyddiadau cymdeithasol megis gwasanaethau crefyddol yn ogystal â chau’r colegau, llyfrgelloedd a sinemâu.
Er i’r inffliwensa ledaenu mewn amryw o ardaloedd trefol o’r sir yn ystod wythnosau cyntaf Tachwedd 1918, nodedig oedd ei absenoldeb yng nghylch Tregaron. Yn hytrach, o adroddiadau’r cyfnod, gwelwn fywyd yn parhau yn gymharol arferol yn yr ardal – a chyfarfodydd diolchgarwch yn parhau yng Nghapel Bwlchgwynt ac Eglwys St. Caron.
Parhau’n llewyrchus bu un o brif atyniadau’r dref yn y cyfnod hefyd – y mart – gyda rhifyn Cambrian News yr 8fed o Dachwedd y Cambrian News yn nodi:
“At the Market on Tuesday there were good supplies and a brisk demand. The supply of small pigs was exceptionally large though prices had fallen.”
Datblygodd y mart i fod yn un o bynciau mwyaf dadleuol yr ardal yn ystod wythnosau cyntaf Tachwedd 1918 – â chwynion yn lleol am ffermwyr o Frycheiniog yn dod a’u da i’r mart i’w werthu – gan felly leihau’r galw am wartheg a defaid lleol.
Ar Dachwedd 11eg, yn dilyn pedair blynedd o ymladd gwaedlyd, daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben – a Thregaron, fel trefi ledled y wlad yn llawn rhyddhad a dathlu – noda’r Cambrian News:
“The news was received with joy at Tregaron. The town was immediately decorated with flags and buntings. A procession was formed, and an effigy of the Kaiser was carried shoulder high. A large bonfire was kindled on Pen Picca in the evening”
Serch y dathlu, gorfoledd a’r rhyddhad digyffelyb yno, galaru bu eraill ar draws Geredigion a Chymru wrth i anterth oeraidd Ffliw Sbaen brysur ledu ar draws y wlad. Er y lledaeniad cyflym hyn, yn Nhregaron bu’n rhaid aros tan rifyn 22ain o Dachwedd 1918 o’r Cambrian News i’r crebwyll cyntaf o’r inffliwensa ddod i’r amlwg.
Dan y pennawd ‘INFLUENZA PANDEMIC’ nodwyd y cafodd cyfarfod brys o’r ‘Tregaron Guardians’ dan gadeiryddiaeth Mr D.J. Williams ei gynnal ar nos Fawrth 18fed o Dachwedd er mwyn mynd i’r afael â lledaeniad sydyn yr haint yn yr ardal. Yn achos penodol Llanddewi Brefi, nodwyd fod hyd at 11 person mewn ambell gartref yn sâl gyda’r haint – yn ogystal a honiad fod 4 person lleol wedi marw o’r inffliwensa.
Yn Nhregaron, un o’r unigolion anffodus yno oedd Mr Enoch Davies, Crynfrynbychan, a fu farw o niwmonia o ganlyniad i inffliwensa ar Dachwedd 17eg, 1918. Yn 50 mlwydd oed, ac yn flaenor yng Nghapel Llwynpiod, daeth yn un o‘r cyntaf i farw o Ffliw Sbaen yn yr ardal.
Gwelwn ymfflamychiad sydyn yr haint yn yr ardal yn dod i osod gryn straen ar y gyfundrefn iechyd lleol. Fel rhan o’r ymdrech ryfel gorfodwyd nifer o ddoctoriaid a nyrsys yr ardal i ymuno â’r fyddin – gan eisoes fentro i faes y gad yn Fflandrys neu bellafoedd byd. Gyda lledaeniad sydyn ail don farwol Ffliw Sbaen ar y ffrynt cartref erbyn Tachwedd 1918, gosodwyd y drefn iechyd bregus gweddilliol dan bwysau sylweddol – tuedd, noda’r Cambrian News, adlewyrchwyd yn ardal Tregaron:
“Dr Lloyd, Tregaron, was being called out day and night and there was a danger of his health breaking down. Dr Davies, Birch Hill, was home on leave from the army and he suggested that representations be made to the Local Government Board and the army authorities to allow him to remain for at least a month to release Dr Lloyd – that was agreed to.”
Atgyfnerthwyd y ffaith mae nid ffenomena unigryw i Dregaron oedd fath bwysau ar y gyfundrefn iechyd gyda rhifyn o’r Goleuad ar Dachwedd 1af 1918 yn nodi:
“Beth bynnag yw’r achosion, y mae’n afiechyd difrifol, ac y mae’n fwy difrifol yn gymaint a bod meddygon mor brin. Ni does amheuaeth, mi gredaf, nad oes gormod o feddygon wedi eu galw i’r fyddin, a dylid rhyddhau cynifer ag sy’n bosib ohonynt mewn amgylchiad fel hwn. Nid bu’r fath afiechyd yn y wlad ers tua deugain mlynedd”
Erbyn dechrau Rhagfyr 1918, byddai’r haint farwol yn prysur encilio mewn amryw o drefi cyfagos ar draws Ceredigion a Chymru – yn eu plith, Llanbedr Pont Steffan. Er hynny – fel noda rhifyn y 6ed o Ragfyr 1918 o’r Cambrian News – parhau’n amlwg yng nghylch Tregaron bu’r haint – â nifer o achosion a marwolaethau yn deillio o’r ffliw.
Yn wir, y wythnos flaenorol yn unig, cafwyd tri gwasanaeth angladd yng Nghapel Bwlchgwnt, Tregaron a oedd yn gysylltiedig â’r ffliw.
Ymysg yr amlycaf o rheiny a fu farw o’r haint oedd Mr E Thomas, Cambrian House, Tregaron. Ym mhapurau newydd a chyfnodolion y cyfnod, cafwyd teyrngedau hynod deimladau i Mr Thomas. Disgrifia’r Cambrian News y gŵr fel “the life of the town” tra noda’r Gwyliedydd Newydd – “Gyda ymweliad y Flu daeth y dref hon dan lawer cwmwl ond nid duach na phan gymerwyd y brawd Evan Thomas” –
“Yr oedd yn fachgen o allu meddyliol cryf, yn ddatganwr enwog ac yn un ddaliai ben llinyn ar bynciau crefyddol a chymdeithasol a’r cyffredin ohonom. Bydd yn golled i’n heglwys yn Nhregaron ar ei ol ar lawer cyfrif. Gwelir ei eisiau hefyd yn ein cymanfa ganu a phynciol fel cylchdaith. Cymerai ran flaenllaw gyda’r pwnc a;r canu. Ni cyfyngai ei wasanaeth i gylch o lafur na changen mewn gwybodaeth.”
Gyfochr a’r anffodus Mr Thomas, bu hefyd farw Mr Jack Edwards, Doldre, Tregaron o’r haint. Bu Edwards yn ymladd yn Ffrainc am nifer o flynyddoedd cyn dychwelyd i’r ardal ar ôl anaf ar faes y gad. Noda ei deyrnged iddo farw’n hynod sydyn o’r haint – gan atsain un o nodweddion amlycaf y ffliw a oedd wedi dod i arswydo cymunedau ar draws y Byd.
Y drydydd achos marwol o’r ffliw’r wythnos honno oedd Mrs Jano Jones, o London House, Tregaron yn wreiddiol. Bu farw Mrs Thomas farw o’r haint yn Hengoed, Gwent, le weithiai fel athrawes ers naw mlynedd. Yn dilyn ei marwolaeth, cludwyd ei chorff yn ôl i Dregaron – gan eto atsain natur drychinebus yr haint ar y gymuned leol.
Nid absennol bu crebwyll o’r haint mewn pentrefi cyfagos chwaith. Ym mhentref Llangeitho, un o ddigwyddiadau mwy nodedig y cyfnod oedd marwolaeth y Parchedig D.A. Jones – a wasanaethodd yr Eglwys leol am ddeugain mlynedd . Tra ei bod yn bwysig pwysleisio mae nid o Ffliw Sbaen y bu farw, ceir crebwyll nodedig i’r haint yn ei deyrnged yn y Cambrian News –
“Yr oedd y claddedigaeth yn breifat hyd y capel. Wedi cyrhaedd yno yr oedd tyrfa wedi dod ynghyd. Ag ystyried yr afiechyd sydd ar hyd y wlad a’r tywydd gwlyb drycinog yr oedd yn syndod fod cynnirfer wedi dyfod yno…”
Mae’r crebwyll i Ffliw Sbaen yma felly yn un o bwys – gan atsain yr ymwybyddiaeth leol i’r pandemig (er ei bod yn ymddangos i’r mwyafrif anwybyddu unrhyw bryder o’r salwch er mwyn mynychu gwasanaeth y Parchedig Davies!).
Wrth astudio effaith pandemig Ffliw Sbaen ar gymunedau rhyngwladol, un o nodweddion amlycaf yr haint oedd y nifer anghymesur o bobl yn ei hugeiniau a fu farw o’r haint. Awgrymai haneswyr roedd hyn gan nad oedd y genhedlaeth iau yma wedi datblygu’r un imiwnedd a’r to hŷn wynebodd heintiau megis Ffliw Rwsia ychydig ddegawdau gynt.
Yn achos bro Tregaron, gwelwn y tuedd hwn o farwolaethau cynamserol yn amlygu ei hunan. Ar Ddydd Llun, 9fed o Ragfyr 1918, claddwyd Miss E Davies, Trawsgoed, ym mynwent Bwlchgwynt. Yn wreiddiol o Dregaron, bu farw o’r ffliw yn 27 mlwydd oed.
Wythnos yn ddiweddarach, bu farw Mrs M.B Williams, Ffosddu Bronant o’r haint – a hithau hefyd ond yn 27 mlwydd oed. Claddwyd hi ddeuddydd cyn y Nadolig, gyda rhifyn y 3ydd o Ionawr, 1919 o’r Cambrian News yn nodi –
“The funeral of Mrs M.B. Williams, the wife of Mr J.R. Williams, Ffosddu, Bronant, only daughter of Mr Morgan Evans, Llwyncolfa, Berth, took place on December 23rd, amidst widespread indications of sympathy and regret. Mrs Williams was a faithful member of the C.M. Church of Berth, where her father is deacon and treasurer. She was twenty-seven years of age and had contracted influenza which developed into double pneumonia, and she succumbed on the 18th. There was an exceptionally large concourse at the funeral.”
Drwy farwolaethau Miss Davies a Mrs Williams ganol Rhagfyr 1918, parhau bu cysgod oeraidd y pandemig yng nghylch Tregaron hyd droad 1919.
Yn ogystal â’r amryw o farwolaethau, gweler y ffliw hefyd yn cael effaith ar ddigwyddiadau yn y sir. Yn achos yr ysgolion lleol, a oedd ar gau ers cychwyn Tachwedd, gohiriwyd eu seremonïau gwobrwyo – gyda’r Darian yn nodi ym Mhasg 1919:
“Cyn cau ohonynt i wyliau’r Nadolig, y cynhelia’r Ysgolion Sir eu Cyrddau Blynyddol, bob amser. Gwyddoch mai yn y cyrddau hyn y rhennir y gwobrwyon i’r plant goreu, ac y dyry’r prif athrawon eu hadroddiadau blynyddol o helynt eu hysolion; ac yn and dim, ar y dydd hwn, y traddodir araith arbennig i’r ysgolheigion gan wr o fri. Eleni, bu raid cau’r ysgolion ymhell cyn y Nadolig, oherwydd bod i’r fflir gymaint rhwysg yn y broydd. Felly yn awr, cyn gwyliau’r Pasc, y trefnodd ysgolion Tregaron ac Aberystwyth eu Cyrddau Blynyddol.”
Gyfochr a chau’r ysgolion, ym mhentref Ysbyty Ystwyth, gohiriwyd y cyngerdd blynyddol ar y 27ain o Ragfyr 1918, gan gael ei gynnal yn hytrach ym Mhasg 1919 – a hynny ar ar gyngor y Swyddog Iechyd lleol.
Erbyn canol Ionawr 1919, absennol bu unrhyw grebwyll o Ffliw Sbaen yn y Cambrian News yng nghylch Tregaron– a’i ymadawiad mor sydyn a’i ddyfodiad i’r ardal.
Ar y cyfan, ymylol bu effaith yr haint ar y dref a’r ardal leol – ac yn sicr ni lesteiriodd y pandemig fywyd bob dydd y gymuned leol i’r un raddau a threfi cyfagos megis Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan.
Serch hynny, bu presenoldeb y ffliw yn yr ardal yn bennod bwysig o’r hanes lleol, ac yn atgyfnerthu’r ffaith i’r haint wirioneddol ledu i bob cymuned a chornel o’r wlad. Tra na fu’r dioddefaint yn yr ardal mor amlwg a’r mwyafrif o drefi ar ddinasoedd, bu i brofiadau’r ardal amaethyddol, wledig hon wrth fynd i’r afael a’r ffliw atsain profiadau a heriau cymunedau ledled y byd – o’r pwysau ar y gwasanaethau iechyd, i’r angen i ohirio digwyddiadau, ac wrth gwrs y marwolaethau cynamserol.
Ganrif yn ddiweddarach, tra bod ein technoleg, gwybodaeth ac ymateb i heriau bandemig rhyngwladol wedi esblygu’n sylweddol, mae nifer o brofiadau ardal Tregaron yn ystod Ffliw Sbaen 1918-19 yn parhau’n hynod gyfarwydd.
Gyda chydnabyddiaeth i Papurau Newydd Cymru am y ffynonellau.