Mae caffi a agorodd am y tro cyntaf yng nghanol Tregaron flwyddyn yn ôl wedi bod mor boblogaidd fel ei fod bellach ar fin symud i adeilad mwy ar y sgwâr.
Ers iddo agor ym mis Chwefror y llynedd mae’r caffi, Halen a Papur, wedi dod yn lle hynod boblogaidd i drigolion lleol gyfarfod am damaid blasus o fwyd, neu baned a sgwrs.
Roedd gan Morfudd Pugh a’i phartner busnes Claire Davies reswm da dros fentro i agor caffi – sef nad oedd ganddyn nhw eu hunain unlle i fynd yn y dref, gan fod pobman arall wedi cau o un i un dros y blynyddoedd diwethaf.
“Fe wnaethon ni sylwi ganol mis Ionawr y llynedd fod safle ar gyfer caffi ar gael i’w rentu,” meddai Morfudd. “Digwyddodd pethau’n hynod gloi wedyn, ac roedden ni’n agor y caffi ar Chwefror 12!
“Ry’n i wedi cael cefnogaeth wych gan bobol leol, sy’n gwerthfawrogi’r hyn sydd da ni i’w gynnig a naws gymdeithasol y lle.”
Rhan o apêl Halen a Papur yw eu bod yn darparu ar gyfer pawb, ychwanegodd.
“Mae da ni le chwarae i blant bach, sy’n golygu fod eu mamau’n cael cyfle i eistedd i lawr i ymlacio dros sgwrs,” meddai.
“Mae pobol wrth eu boddau gyda’n coffi arbenigol a’n cacennau cartref – ac mae’r brecwast llawn traddodiadol hefyd yn boblogaidd iawn gan ffermwyr lleol.”
Roedd Morfudd eisoes yn wyneb cyfarwydd yn yr ardal gan ei bod yn dod o bentref Llanilar gerllaw, ac wedi gweithio yng ngwesty’r Talbot dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac ar fferm yn Nhrawsgoed am gyfnod cyn hynny.
O Melbourne yn Awstralia, ar y llaw arall, y daw ei phartner yn y busnes, Claire Davies.
“Gwraig fy nghefnder yw hi,” esboniodd Morfudd. “Fe wnaeth y ddau gyfarfod pan oedd allan yn Awstralia ac yno buon nhw’n byw nes symud i Gymru ddwy flynedd yn ôl. Mae’r caffi wedi bod yn gyfle gwych iddi roi ei harbenigedd mewn coginio ar waith.”
Yn ogystal â’r caffi ei hun, fe fu’r ddwy yn brysur hefyd dros yr haf yn arlwyo ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau mewn fan fwyd Ar y Rhewl, ac mae tair priodas ar y gweill ar gyfer eleni.
Hwb allweddol i’w menter yn y dyddiau cynnar oedd bod Morfudd wedi cael ei dewis i fod yn rhan o raglen hyfforddiant busnes gyda phrosiect Llwyddo’n Lleol drwy’r elfen Mentro.
“Roedden ni’n cychwyn ar y Rhaglen Hyfforddiant Busnes o fewn wythnos neu ddwy i agor y caffi,” meddai. “Yn ogystal â’r cymorth ariannol, roedden ni’n gwerthfawrogi dilyn y sesiynau wythnosol gan eu bod yn ein sicrhau ein bod ar y trywydd iawn. Mae wedi’n helpu gyda phethau fel brandio ac wedi’n galluogi i roi sail gref i’r busnes.”
Diolch i’r sail gref honno, mae’r caffi bellach yn y broses o symud i adeilad y Banc ar sgwâr y dref.
“Rydyn ni mor brysur yn yr adeilad presennol fel ei fod yn aml yn rhy lawn,” meddai Morfudd. “Roedden ni angen lle mwy, ac ry’n ni wrth ein bodd fod y Banc wedi dod ar gael i ni. Fe fyddwn ni’n gallu coesawu llawer mwy o bobol yma – gyda dros 60 o seddau, mae’n fwy na dwbl ein hen le.
“Creu mwy o le i’n cwsmeriaid anhygoel gan gadw at yr hyn sy’n gwneud Halen a Pupur yn sbeshal yw’r nod – bwyd blasus, coffi o’r radd flaenaf a theimlad cryf o gymdeithas.
“Mae’n deimlad gwych cael cychwyn pennod newydd yn ein hanes yn y Banc rhyw flwyddyn oddi ar i ni agor!”
Un o brosiectau rhaglen ARFOR yw Llwyddo’n Lleol 2050. Mae rhaglen ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, gynnal yr iaith.