Diwrnod i’w Gofio

Sêr Dewi 2, Felinfach 1.

gan John Jones
IMG_4154
IMG_4151
IMG_4150

Roedd pentre Llanddewi ar dân brynhawn dydd San Steffan pan ddaeth dros 300 o gefnogwyr ynghyd i wylio lêgêm bel-droed gystadleuol a chyffrous rhwng dau bentre cyfagos.

Mae timau Sêr Dewi a Felinfach yn ymgiprys ar frig prif adran cynghrair y Costcutter, Ceredigion, gyda’r ddau a gwir gyfle o gipio’r brif wobr pan ddêl Mai, er yn sicr y bydd timau megis Llechryd, Llambed ac Abreteifi yn chwarae rhan allweddol yn y frwydr sy’n datblygu i fod gyda’r mwyaf cystadleuol ers blynyddoedd.

Cyn cychwyn y gêm, roedd Y Sêr ar y brig, 3 phwynt yn glir o Llechryd a 12 pwynt o flaen Felinfach, ond roedd gan y tîm o Ddyffryn Aeron 4 gêm mewn llaw ar eu cymdogion, a gan fod 3 phwynt ar gael am fuddugoliaeth ymhob gêm, petasai Felinfach yn llwyddo i ennill ar y dydd, buasent nôl ynghanol y ras.

O flaen un o’r torfeydd mwyaf yn Llanddewi erioed, cafodd y tîm cartref gychwyn delfrydol o fewn y ddwy funud agoriadol, pan gollodd golgeidwad talentog Felinfach, Steffan Williams, hediad groesiad uchel Ryan Busby yn yr haul tanbaid wrth i’r bel wyro o dan y trawsbren i’r rhwyd. Brwydrodd yr ymwelwyr nôl a gorfod i golgeidwad Y Sêr, Ifan Morgan, i fod ar ei orau i droi ergyd isel, nerthol Rhys Williams i ffwrdd am gic gornel.

Ond gyda 10 munud yn weddill o’r hanner cyntaf, daeth Felinfach yn haeddiannol yn gyfartal pan chwiliodd pas dreiddgar Rhys Williams, Ben Mcevoy mewn digonedd o le rhyw 25 llath allan. Roedd ei ergyd yn gywir a nerthol i gornel y rhwyd.

Ymatebodd y Sêr yn dda ac o fewn 5 munud ad-enillwyd y fantais pan groesodd Rupert Geddes yn berffaith o’r dde i ben yr arch sgoriwr Ryan Busby, ac fe wnaeth e’r gweddill a rhoi gôl o fantais i’w dîm ar yr egwyl.

Yn ôl y disgwyl, wrth chwarae i lawr gwared enwog Llanddewi, fe daflodd Felinfach y cyfan at y tîm cartref, ond gwelwyd amddiffyn arwrol ar sawl achlysur, tra roedd Y Sêr yn beryglus pan oedd y cyfle i wrth ymosod. Er pob ymdrech o fewn eu gallu, ni lwyddodd yr ymwelwyr i hollti amddiffyn y Sêr, ac ni ychwanegwyd at y sgôr yn yr ail hanner.

Ar ddiwedd y 90 munud, mor braf oedd gweld y ddau dîm yn clodfori ei gilydd. Roeddent wedi rhoi’r cyfan. Yn ddiweddarach, pan ddaeth canlyniadau Llechryd a Llambed i glyw’r 2 dim, a’r wybodaeth mai gemau cyfartal oeddent wedi eu cael, sy’n golygu colli 2 bwynt yr un, roedd hyn yn newyddion calonogol i’r ddau glwb- Felinfach yn dal yn y ras, ond Sêr Dewi ar ddiwedd 2024, 5 bwynt yn glir ar y brig, – ond mae ffordd bell i fynd.

Llongyfarchiadau i’r ddau glwb, dau bentre cefn gwald, am roi’r fath wledd i ni a llwyddo i greu’r fath gyffro a disgwyliadau mewn tymor sy’n argoeli’n un cofiadwy i’r ddau ohonynt.

Dweud eich dweud