Tregaroc Bach @ YHR

Gig i bawb!

gan Fflur Lawlor
7c1cbaba-28d9-4be8-82c6

Criw yn cyfansoddi

c78a2ec4-2254-45d5-8229

Criw oedd yn rhan o’r gweithdy gyda Osian Williams, Candelas a Ffion Medi, aelod o bwyllgor Tregaroc

d5418478-b5b3-469a-87bd

Disgyblion Ysgol Henry Richard a rhai busnesau lleol yn ffilmo

37befa9a-dd50-4f2c-89b2

Disgyblion Ysgol Henry Richard yn ffilmo

c30016a8-c0ec-4992-b485

Candelas bydd yn perfformio yn Tregaroc Bach

IMG_1820

Baldande bydd yn perfformio yn Tregaroc Bach

bfe213a7-dd38-4ec1-824f
3f752231-44b5-46d4-b88d

Disgyblion iau yr ysgol yn ffilmo

Mae Ysgol Henry Richard wedi bod yn cydweithio gyda TregaRoc dros y misoedd diwethaf ac maent yn cynnal ‘TregaRoc Bach’ ar y cyd.

Ar nos Wener y 4ydd o Hydref am 7yh bydd penllanw i ddathliadau TregaRoc yn dathlu’r 10 gyda gig i bawb yn Neuadd yr Ysgol. Cyfle i’r disgyblion â’u teuluoedd yn ogystal â’r gymuned ehangach fwynhau amrywiaeth o gerddoriaeth Gymraeg fyw!

Bydd yr ysgol yn perfformio cân newydd sbon, un y maen nhw wedi ei chyfansoddi. Mae TregaRoc wedi rhoi cyfle ardderchog i’r disgyblion i gyd weithio â neb llai nag Osian Williams, Candelas i gyfansoddi cân arbennig i ddathlu Cymreictod ein hardal a’n treftadaeth.

Meddai Ffion Medi, aelod o bwyllgor Tregaroc – “Y syniad yw y bydd y gân yn rywbeth i gofio am ben-blwydd arbennig TregaRoc yn 10, gan ddathlu edrych nôl. Ond mae’r pwyslais fan hyn ar edrych ymlaen, y dyfodol, ac edrych ymlaen am y ddeng mlynedd nesaf a thu hwnt. A’r disgyblion – y to ifanc yw dyfodol cerddoriaeth Gymraeg, yr iaith Gymraeg a Chymreictod.”

“Mae’r disgyblion wedi cyfansoddi cân, creu’r geiriau, recordio’r gân ynghyd â chreu fideo arbennig i gyd-fynd a’r gân.  Mae’n grêt cael bod yn rhan o’r garreg filltir wych hon. Partneriaeth unigryw rhwng TregaRoc, Theatr Felinfach, Cwmni Garnfach, yr ysgol ac Osian Williams yw hwn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn ofnadwy at dderbyn y profiad arbennig hwn ac yn ddiolchgar iawn i bwyllgor TregaRoc am gynnwys yr ysgol yn y dathliadau. Rydyn ni’n gwerthfawrogi hyn yn fawr” meddai Dorian Pugh, Pennaeth Ysgol Henry Richard.

Derbyniwyd cyllid i gyfrannu at y prosiect yma gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, gyda chymorth Cynnal y Cardi gan Gyngor Sir Ceredigion. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth yma.

Newyddion cyffrous arall yw… mae Ysgol Henry Richard yn ddiweddar wedi derbyn Gwobr Aur y Siarter Iaith am Gymreictod a Chymraeg. Maent yn hynod o falch o’r wobr a bydd y digwyddiad hwn yn goron ar y cyfan ac yn ddathliad o’i llwyddiant. Mae cydweithio gyda’r gymuned yn un o’r pethau y cafodd yr ysgol eu canmol am wneud, ac maent yn diolch i’r gymuned am y gefnogaeth o hyd i’r ysgol.

Ymunwch â ni felly am ddangosiad cyntaf o’r gân wreiddiol a’r fideo arbennig yma. Hefyd bydd Candelas, Baldande a mwy yn perfformio ar y noson! Bar a bwyd ar gael!

Bydd tocynnau am ddim i ddisgyblion Ysgol Henry Richard (3-16).

Codir tâl o £1 i blant eraill (dan 14 oed) a £5 (15+oedolion)

Tocynnau ar werth dydd Mercher 25ain – cyntaf i’r felin!

Tocynnau ar werth o swyddfa Ysgol Henry Richard, Argraffwyr Lewis + Hughes Printers neu Facebook messenger TregaRoc.

Dewch i gefnogi a joio ein ‘Tre fach a sŵn mawr’!

Dweud eich dweud