Toubkal – copa uchaf gogledd Affrica

Taith i Forocco i gerdded yn y mynyddoedd Atlas Hydref 2024

Rhydian Wilson
gan Rhydian Wilson
Copa Jebl Toubkal
Copa Jebl Toubkal
Copa Jebl Toubkal

Y criw ar Copa Toubkal

Ali Babba

Abdoazak, Aidan “Ali Babba”, Mohamed a Ady

Dringo
Y tim

Mike, Ali, Claire, Aidan, Stephanie, Nigel, Rhydian

Machlud dros Marrakech

Machlud dros Marrakech

IMG_6079

Morocco – Jebl Toubkal Hydref 2024

Sbel fach nol, ar ôl sgwrs gyda rhai o hyfforddwyr fy nghwmni, ICY Cyf, penderfynwyd mynd ar daith ar ôl diwedd y tymor gwersylla. Ond i ble?

Mae un o’m hyfforddwyr yn trefnu teithiau i Forocco ar fynyddoedd Atlas…. Felly, bant â ni i ddringo Toubkal, mynydd uchaf gogledd Affrica.

5 ohonom ni yn hedfan o Luton a 3 o Fanceinion. Cwrdd yn Marrakech am 9yh a mas am ginio am 11yh, am brofiad!

Mae Marrakech yn ddinas wahanol, ac mae’r hen ddinas – Y Medina – yn wahanol iawn! Ceir, beiciau modur a phobl yn mynd a dod o bob cyfeiriad ond neb yn cadw i unrhyw fath o drefn. Strydoedd bach cul rhwng adeiladau 3 a 4 llawr o uchder. Mas am fwyd am 11yh ac wrth gerdded trwy’r sgwâr dyma’r stondinwyr lleol yn dechrau gweiddi Ali Babba, Ali Babba. Roedd un o’r grŵp, Aidan, wedi tyfu barf blewog mawr gwyn ac roedd e’n atgoffa nhw o’r chwedl am Ali Babba, llysenw wnaeth ddilyn Aidan am yr wythnos. Roedd y sŵn, yr aroglau a’r golygfeydd yn wahanol iawn i Dregaron… ond mwy am hyn nes ymlaen.

Diwrnod 2

Y bore wedyn, tacsi lan i Imlil ac Aroumd i baratoi am yr ymdrech. Popeth yn iawn nes cyrraedd Imlil. Ni fydda i byth yn anghofio’r daith lan i Aroumd. Dim ‘crash barriers’ o unrhyw fath. Llethrau serth uwchben ni a chwymp o gannoedd o droedfeddi lawr i waelod y cwm ar y chwith. Llety hyfryd a chroeso mawr wrth Hassan, mwy o fwyd na allwn fwyta pob pryd! Wâc fach o 4 awr i fyny’r cwm i helpu addasu gyda’r uchder. Mae Aroumd 2002M uwchben y môr.

Cwrdd gyda Abdoazack a Mohamed, ein tywyswyr am y tridiau nesa. Rhaid cael tywyswyr lleol ers i ddau fenyw ifanc o Sweden cael eu llofruddio gan eithafwr Islamaidd oedd wedi perswadio’r ddwy i’w ddilyn lan i’r mynyddoedd 4 mlynedd yn ôl.

Diwrnod 3

Taith o 8km a chodi mil o fedrau (3000 mil o droedfeddi) i uchder o 3207M lan i’r Refuge (math o westy ar y mynydd ond gyda 12 yn mhob gwely!)

Ar ôl llwytho’r asynnod dyma ni’n dechrau cerdded trwy’r coedlannau afalau mae’r teuluoedd lleol yn tyfu syn rhoi dau grop y flwyddyn! Roedd rhai o’r ffermwyr wrthi yn cynaeafu’r afalau ac yn mynnu bod ni’n cymryd afal yr un am y daith. Yr afal mwya’ blasus y ces i erioed.

Hoe fach wrth adeilad yr Heddlu tra bod y tywyswyr yn dangos ein pasbortau a llenwi’r gwaith papur cyn dringo yn araf bach am ginio yn Sidi Chamarouch. Y Cysegr (Shrine) sy’n denu pobl i Sidi, menywod yn bennaf sy’n chwilio am ŵr. Maent yn teithio lan y cwm ar gefn asyn, yn cludo offrwm o ryw fath i’r Cysegr. Mae rhai dal yn lladd anifail fel offrwm. Dydy’r anifail ddim yn mynd yn wastraff ac yn cael ei rannu fel bwyd. Clywais mai’r anifail mwyaf gaeth ei gludo fel offrwm i Sidi oedd Camel, fi’n itha siŵr roedd digon o fwyd yr wythnos ’ny! Heblaw am y Cysegr roedd y lle yn gasgliad bach di-drefn o fythynnod bach, siopau a llefydd bwyta. Roedd yn damaid o siom i weld faint o sbwriel oedd yn yr afon ac ar hyd y lle. Plastig ymhobman.

Cafwyd dathliad bach wrth i’r grŵp groesi 3,000m a chyrraedd y Refuge (3207m) yn y glaw am bedwar o’r gloch yp. Mae’r Refuge yn dal hyd at gant o bobl ac roedd bron yn llawn – pawb yn gyffrous am y diwrnodau i ddod. Swper hyfryd, Tagine cig oen (wel, cig ac esgyrn!) ac wedyn cywiro cit yn barod am y bore.

Diwrnod 4

Ges i noswaith anghyffyrddus a bron dim cwsg- mae anadlu cyfnodol yn gallu bod yn broblem gydag uchder, wrth i’r corff geisio addasu i’r prinder ocsigen. Mae unrhyw un sy’n nabod fi yn gwybod nad wyf ar fy ngorau heb gwsg, ond ta’ beth, roedd diwrnod caled o gerdded a dringo dau gopa dros 4,000M (12,000dr) o’n blaenau ni felly doedd dim pwynt cwyno, roedd yn amser torchi llewys a chlatsio bant.

5 awr o gerdded lan a tair awr nôl. Roedd yr aer yn llwm iawn ac roedd sawl un yn dioddef o effaith yr uchder. Diwrnod araf. Llawer o stopio a digon o amser i orffwyso ac addasu’n araf i’r uchder. Roedd un rhan o’r daith yn gorfodi ni i ddefnyddio’n dwylo a bod yn ofalus wrth i ni ddringo’r dibyn uwchben y bwlch, ond ar ôl ugain munud dyma ni nîl i’r ‘plod’ arferol.

Mae Ras 4085M a TimezGuida 4089M o fewn awr o’i gilydd a chopa’r ddau fynydd hyn fel copa Mynydd Moel ar Gadair Idris, yn weddol grwn ar un ochr ond yn cwympo’n serth iawn lawr yr ochr arall. Fi’n eithaf siŵr bod ein tywyswyr yn teimlo’n rhwystredig gyda diffyg cyflymder y grŵp heddi!

Cyrraedd nôl i’r Refuge am 3yp, cinio am 4yp a swper am 7yh! Nes i sylwi bod y tywyswyr lleol yn bwyta beth bynnag oedd ar ôl i’r cleientiaid orffen. Sgwrs clou gyda’r tîm a dyma ni’n penderfynu mynnu bod y bechgyn yn bwyta gyda ni. Cymerodd dipyn o berswâd, a ninnau’n helpu casglu’r bwyd a gosod y bwrdd, ond yn y diwedd dyma nhw’n eistedd gyda ni. Cafodd y ddau dipyn o dynnu coes wrth y tywyswyr eraill y noswaith hynny!

Diwrnod 5.

Diwrnod ceisio am y copa!

Toubkal 4167M o uchder, diwrnod mawr iawn. Codi allan o’r bync (12 person – pawb yn ffrindiau mawr erbyn hyn diolch byth), am 3yb, brecwast cyflym ac wedyn, amdani.

3 awr o gerdded/dringo lan i’r bwlch i weld yr haul yn gwawrio ac wedyn hanner awr arall lan i’r copa. Mae’n rhaid i fi gyfaddef cefais bach o ‘sense of humour failure’ wrth ddringo. I fi roedd y cyflymder yn rhy araf a thorrwyd y rhythm yn aml wrth stopio i adael i rai orffwys, ac ron i’n teimlo’n rhwystredig iawn ar y pryd a nes i’n siŵr bod pawb yn gwybod! I fod yn onest dwi’n credu fy mod wedi dioddef wrth gael cyn lleied o gwsg ac hefyd effaith yr uchder.

Ar ôl treulio hanner awr ar y bwlch yn gwylio’r haul yn codi , roedd pob un ohonon ni’n teimlo’n well. Es i rownd pawb i ymddiheuro am ‘ei cholli hi’, dwi’n lwcus iawn bod pawb wedi maddau i fi gyda chwpwl yn dweud bod nhw’n gwybod bod rhywbeth o’i le achos ro’ i’n dawel a ddim yn dweud jôcs ar y ffordd lan!

Ar y copa cafwyd golygfeydd godidog o Fynyddoedd Atlas a phawb am aros mor hir a gallwn. Roedd pawb yn teimlo’n hapus, yn rhannu cwtsh gyda phawb, lot o wenu a chwerthin. Bach o amser ar ben ein pennau ein hunan i eistedd ac i edrych ar y tirwedd anhygoel wedyn, fel darlun anferth gan y peintiwr gore erioed. Ond, ar ôl awr, dechreuwyd disgyn lawr i fwlch arall cyn codi eto i gopa Imuzza 4067M. Roedd hwn yn dipyn o sialens, gyda dringo go iawn, lan a lawr dros sawl pigyn cyn cyrraedd y copa. Dim ond fi oedd yn fodlon gyda’r her yma gyda’r gweddill yn aros amdana i nes lawr.

Ar ôl ail gwrdd gyda’r grŵp, dyma ni’n dechrau disgyn nôl i’r cwm ac i lawr i lety yn  Aroumd. Heibio olion awyren oedd wedi bwrw’r mynydd nol yn 1969 a lladd y criw o 8, roedd rhai o’r cyrff wedi claddu wrth ymyl y llwybr. Roedd yr awyren yn cario bwledi o Portugal i Biafra mewn storm ac wedi methu clirio’r mynydd. Mae rhan fwyaf o fetel yr awyren wedi ei ail ddefnyddio yn y pentre’.

Roedd disgyn i’r cwm yn waeth, i fi, na dringo’r mynydd. Wyth awr a hanner i ddisgyn yr holl ffordd lawr i Armoud. Diolch byth, torrwyd y daith am ginio yn Sidi Chamaroush.

Nôl yn y llety dyma fi’n rhoi diolch am gawodydd a thoiledau deche! Erbyn i ni ddathlu nes yr oriau mân, roeddwn wedi treulio bron diwrnod cyfan (23 awr) ar ddihun!

Diwrnod 6

Brecwast hamddenol a  wâc fach lawr i Imlil heibio’r rhaeadrau a’r gwerthwyr “bangles a bracelets” i ddala tacsi nol i Marrakesh.

Doedd dim un ohonom ni’n gallu dehongli rheolau’r Heol yn Morocco. Mae’n debyg… os ydy dy drwyn o flaen y car/moped/beic/asyn/cerddwr arall… wel, ti sy’ â’r hawl i fynd.

Diwrnod 7

Roed Marrakech ei hunan yn ddinas wallgo’. Yn gymysgedd rhyfedd o hen a newydd. Y Medina, yr hen ddinas, yn llawn safleoedd diwylliannol gyda phob math o gerbyd a beic yn cystadlu am le yn y bwrlwm.

Mae’r sgwâr mawr yn y Medina (Hen ddinas) ar agor 24 awr 7 dydd yr wythnos. Y gwerthwyr ffrwythau a sudd ffres yn galw arnom a phawb arall i flasu eu nwyddau. Roedd y Souks yn antur arall – lonydd cul, llawn siopau bach o bob math heb unrhyw drefn, heb sôn am y siopa a bargeinio. Anghofia’i fyth y boi gyda hen beiriant golchi “twin tub” ar gefn ei foped yn canu corn fflat out wrth hedfan trwy’r torfeydd.

Y Gwesty, Riad Challa, yn le hyfryd, ystafelloedd glan gyda “air conditioning.”  Roedd gan y gwesty bwll bach yng nghanol yr adeilad a’r holl ystafelloedd o amgylch y canol ar 3 llawr. Brecwast ar y to, yn yr haul yn gwrando ar synau rhyfedd a diarth y ddinas a’r Imamiau yn galw’r ffyddlon i weddïo. Be sy ddim i hoffi?

Mae sawl mynydd ar y list am y dyfodol, Triglav yn Slovenia, Mulhacen yn Spain a Kilimanjaro yn Tanzania ond fi ffili aros i fynd nôl i Morocco. Mynyddoedd yr Anti Atlas tro hwn falle ac ymweld ag anialwch y Sahara.

Pwy sy’n dod? Rhowch showt! rhydian@icyuk.co.uk

Camsillafu

  1. cist
  2. dist
  3. gist
  4. sist
  5. lint
  6. liwt
  7. li
  8. nist
  9. Lisa
  • Anwybyddu
  • Dysgu
  • Nôl
  • Nesaf

Dweud eich dweud