Protest Fawr Aberystwyth

Heb Amaeth, Heb Faeth

gan angharad lloyd-jones
06190A47-675A-4E7B-ABFC

Wrth i ni gwrdd tu allan i’r New Inn yn Llanddewi Brefi y bore ’ma, roedd yn amlwg bod pawb â’r un teimladau â ni tuag at y Diwydiant Amaethyddol a siwt y mae Llywodraeth Cymru yn ein trin ni – Ffermwyr Cymru.

Fe yrrwyd sawl cerbyd i gwrdd â gweddill yr ardal yn Glanystwyth, ac ymlaen â ni lan i’r Dre yn Aberystwyth.

Mae’r criw o Ffermwyr, Busnesau sydd yn ymwneud ag Amaeth, Teuluoedd a phobol yr ardal yn gwybod, os na geith rhywbeth ei wneud, ni fydd Cefn Gwlad fel yr ydym yn eu gweld hi nawr yn parhau.

Fe drafeuloedd tractorau a phic-yps o bob cwr o Geredigion i Aberystwyth i ddangos ein bod ni ddim am gael ein trafod a siwt anffawd, ein trin mor anheg ac i adael y Llywodraeth yma yng Nghymru i ddinistrio ein ffordd ni o fyw.

Bu nifer yn siarad gan gynnwys,

Aled Ellis, Elin Jones, Ben Lake, Geraint Jenkins, Aled Thomas, Gwyn Wigley Evans i enwi dim ond rhai, yn mynegi eu barn cryf hwy am y sefyllfa.

Diolchwn yn fawr iawn i Emlyn Jones am gynnal y Brotest Heddychlon y tro yma.

Mae yna fws yn cael ei drefnu i fynd i’r Brotest yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mercher Nesaf.

Manylion ar y poster os am le ar y bws.