Nadolig Tregaron

Dathliad Nadolig y dref

gan Fflur Lawlor
IMG_3556
66cb41dd-a0ea-4884-88e9

Er gwaetha’r tywydd, cafwyd noson hyfryd neithiwr yn troi goleuadau Nadolig y dref ymlaen yn Nhregaron.  Nos Wener Rhagfyr 6ed daeth cymuned Tregaron allan i ddechrau dathliadau Nadolig y dref. Trefnwyd y noson gan Gyngor Tref Tregaron ac roedd yn gyfle i bawb ddod ynghyd i gael sgwrs, canu carolau, mins pei, diod cynnes a bach o fwyd blasus Halen a Pupur!

Cafwyd adloniant gan Ysgol Henry Richard, Mish Mash a Merched Soar, ac ymddangosiad gan y dyn ei hun, Siôn Corn a’i gorachod! Goleuwyd y goeden gan Cadeirydd y Cyngor Tref, Cyng. Catherine Hughes.

Daeth tyrfa dda allan ac mae’r Cyngor Tref yn ddiolchgar am gefnogaeth Spar Tregaron, Caron Stores, Ysgol Henry Richard, Merched Soar a Neuadd Goffa Tregaron a gyfrannodd tuag at lwyddiant y noson mewn gwahanol ffyrdd. Diolch hefyd i Halen a Pupur am ei presenoldeb ar bwyd blasus.

Cofiwch am daith Siôn Corn o amgylch y dref, nos Sul 22ain Rhagfyr i ddechrau am 6pm a’r gystadleuaeth ty wedi’i addurno orau – cofrestrwch erbyn 19eg Rhagfyr drwy e-bostio clerc@cyngor-tregaron-council.org.uk

Nadolig Llawen i chi gyd.

Dweud eich dweud