gan
Mair Humphreys
Fel rhan o gyfres Teithlyfrau Hanes Archifdy Ceredigion mae’n bleser gennym gyhoeddi teithlyfr newydd ‘Llwybr Tref Tregaron’. Mae’n gyfle i fynd am dro o amgylch y dref a chael eich cyflwyno i rai o olygfeydd hanesyddol y dref, gan gynnwys trigolion enwog, troseddau a chosbau, a hyd yn oed pysgodyn anferth.
Mae’r Teithlyfr yn cael ei lansio am 11 y bore ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, y 6ed Mai 2024 yng Nganolfan Treftadaeth Tregaron. Croeso cynnes i bawb.
Os yw’r llyfryn yn codi awydd arnoch i ddarganfod mwy yna mae croeso cynnes i chi ymweld ag Archifdy Ceredigion yn Hen Neuadd y Dref Aberystwyth. Gellir cael mwy o wybodaeth am yr Archifdy ar ein gwefan: www.archifydy-ceredigion.org.uk