Gwobr Gŵyl Ddewi

Dathlu cyfraniad gwirfoddolwyr lleol

Gwion James
gan Gwion James

Mae Cyngor Tref Tregaron wedi lansio gwobr newydd sbon heddiw i gydnabod cyfraniad gwirfoddol lleol.

Bwriad y wobr yw dathlu a diolch i wirfoddolwr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i ardal Tregaron a’r cylch. Bydd y wobr yn cael ei gyflwyno fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi ar Fawrth 1af .

Meddai Arwel Jones, Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron

“Rydym yn croesawu enwebiadau i oedolion o fewn etholaeth Tregaron sydd wedi gweithio’n wirfoddol er lles yr ardal a hynny mewn  meysydd tebyg i chwaraeon, cymuned, amaeth, plant, pobl ifanc, pobl hŷn neu unrhyw faes arall . Mae yna gymaint o bobl sy’n gwneud gwaith gwych yn y gymuned a hynny heb unrhyw gydnabyddiaeth o gwbl. Dyma gyfle felly i gydnabod ymrwymiad un o sêr yr ardal.”

Er mwyn cynnig enwau bydd angen cysylltu gyda chlerc y Cyngor Tref erbyn y 23ain o Chwefror clerc@cyngor-tregaron-council.org.uk neu trwy law Cynghowyr Tref Tregaron.