Digon yw Digon!

Wyn Nantbyr yn arwain ymgyrch Genedlaethol

Gwion James
gan Gwion James
Wyn Evans, Nantbyr Uchaf, Tyngraig

Wyn Evans, Nantbyr Uchaf, Tyngraig

Cyfarfod Cyhoeddus Mart Caerfyrddin 8fed Chwefror 2024

Cyfarfod Cyhoeddus Mart Caerfyrddin 8fed Chwefror 2024

Mae’r ffermwr lleol a Chynghorydd Sir -Wyn Evans, Nantbyr Uchaf, Tyngraig wedi bod yn cadeirio cyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru yn ddiweddar, er mwyn i ffermwyr a busnesau gwledig ddangos ei anfodlonrwydd gyda nifer o bolisïau’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd.

Ers blynyddoedd bellach mae ffermwyr Cymru wedi bod yn teimlo rhwystredigaeth fawr gyda pholisïau’r Llywodraeth ynglŷn a materion gwledig. Y tri phrif fater yw-

1. Polisi’r Llywodraeth tuag at ddelio gyda TB (Tuberculosis) mewn gwartheg,

2. Y polisi NVZ (Nitrate Vulnerable Zones) Cymru gyfan, sy’n gorfodi holl ffermydd Cymru i gydymffurfio gyda rheoliadau mor llym o’r defnydd o nitradau sydd yn tanseilio busnes y fferm.

3. Ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy- sef y polisi amaeth newydd i Gymru ers gadael yr Undeb Ewropeaidd -sydd ynghyd a nifer o reolau eraill yn disgwyl i ffermwyr neilltuo 10% o’u tir i dyfu coed.

Yn ogystal â hyn i gyd mae bygythiad gan y Llywodraeth i newid y tymor ysgol fel bod ysgol yn ystod wythnos y Sioe Fawr yn Llanelwedd bob Mis Gorffennaf.

Mae teimladau yn y gymuned wledig bod gan y Llywodraeth Lafur agenda i danseilio bywyd gwledig Cymru yn gyfan gwbl. Mewn ymateb i’r rhwystredigaeth hyn, daeth grŵp at ei gilydd i greu ymgyrch ‘Digon yw Digon’. Bu dros 1,000 o bobl mewn cyfarfod ym Mart Y Trallwng ar y 1af o Chwefror a bu dros 3,000 ym Mart Caerfyrddin wythnos yn ddiweddarach. Roedd y gefnogaeth i’r cyfarfodydd hyn yn anfon neges glir i’r gweinidog amaeth am anfodlonrwydd ffermwyr Cymru.

Ymysg y siaradwyr yn y cyfarfod yng Nghaerfyrddin oedd Prys Morgan o gwmni cig Kepak , Merthyr Tydful ac Edward Morgan o gwmni bwyd Castell Hywel. Neges y ddau oedd y byddai tanseilio’r diwydiant mwyaf yng Nghymru- sef y diwydiant bwyd a diod yn cael effaith wael ar eu busnes nhw hefyd, a dyfodol eu staff.

Cyfeiriodd Rhys Beynon Thomas – milfeddyg o Gaerfyrddin at bolisi Llywodraeth Cymru o ddelio gyda’r diciâu (TB) mewn gwartheg.  Adroddodd fod y polisi ddim yn effeithiol oherwydd bod data’r Llywodraeth ei hun yn cadarnhau fod yn achosion o’r diciâu yn uwch nawr na fu yn 2013, a bod 9,000 o wartheg wedi cael eu difa yn 2023 i gymharu gyda 6,000 yn 2013.  Er mwyn i’r polisi fod yn fwy effeithiol ychwanegodd fod angen delio gyda’r diciâu (TB) ym mywyd gwyllt yn ogystal â gwartheg.

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn datgan ein llais yn gryf yn erbyn y polisi mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori arno ar hyn o bryd,” meddai Wyn, sy’n gyn-swyddog Sirol a Chenedlaethol gydag Undeb NFU Cymru.  “Mae’r polisi arfaethedig yn tanseilio’r diwydiant i’r dyfodol. Mae cyfartaledd oedran ffermwyr yn uchel ar hyn o bryd, felly ma rhaid creu sefyllfa sy’n denu pobl ifanc i’r diwydiant er mwyn sicrhau’r dyfodol” ychwanegodd.  “Mae’r cyfarfodydd diweddar yn dangos beth yw cryfder teimladau yn gefn gwlad ar hyn o bryd, ac mae’r aelodau yn y cyfarfodydd hyn wedi rhoi mandad clir i ni barhau’r ymgyrch Digon yw Digon”

Mewn ymateb i’r cyfarfodydd cyhoeddus, adroddodd dau o’r trefnwyr Gary Howells ac Aled Rees heddiw eu bod nhw ac eraill wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod gyda’r gweinidog materion gwledig Leslie Griffiths a’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn fuan.

Diolch i Wyn ac eraill am wneud ‘Digon yw Digon’ ac arwain yr ymgyrch hon ar ran y gymuned wledig, a phob dymuniad da iddynt.