Cylch Meithrin Tregaron

Wynebau Hapus

gan angharad lloyd-jones

Ar nos Fercher yr 17eg o Ebrill, cynhaliwyd Cyfarfod llewyrchus blynyddol Cylch Meithrin Tregaron.

Roedd yn noson i ethol pwyllgor newydd, diolch i’r cyn-bwyllgor, yn gyfle i drafod syniadau, trafod y dyfodol ac i roi canmoliaeth i’r staff sydd yn rhedeg y safle.

Cafodd Emyr Lloyd ei ethol yn gadeirydd ac Angharad Lloyd-Jones i barhau yn ei rôl wrth drosglwyddo’r awenau yn ystod y misoedd nesaf.

Diolchwyd i Victoria Jones am sefyll ymlaen fel Trysorydd.

Cafwyd Caryl Haf Jones a Carys Jones-Evans eu hethol yn ysgrifenyddes ac is-ysgrifennyddes.

Mae’n diolch yn enfawr i’r cyn-bwyllgor sef Elen Yetton a May Jones am eu gwaith diflino dros y flwyddyn ddiwethaf.

Diolchwyd hefyd i Eirian Rosser-Davies am gymryd yr awenau o fod yn berson cyfrifol ar y cylch ar ôl i Mr Dorian Pugh fod yn y rôl ers sawl blwyddyn bellach.

Diolchwn i Heulwen Jones o’r Mudiad Meithrin am ei chymorth bob tro hefyd.

Mae’r Cylch Meithrin wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, wrth symud mewn i’r safle newydd yn yr hen bwll nofio yn Nhregaron, gyda’r niferoedd yn cynyddu wrth i’r plant 2 oed gael eu 12.5 awr wedi eu hariannu gan y Llywodraeth.

Mae’r staff hefyd wedi gweithio yn ddi-baid er mwyn ennill grantiau di-ri sydd wedi golygu gallu prynu offer newydd i’r plant.

Mae Miss Gayle, Miss Kassey, Miss Anisa a Miss Gracie yn staff arbennig a gofalus iawn, ac mae’r clod iddyn nhw am y ffordd mae’r cylch yn cael ei redeg. Mae’r plant yn hapus iawn  yna, a’r gofal yn arbennig. Mae’r cyfleoedd maent yn cael yn y cylch yn amlwg wrth y lluniau. Gweler lluniau o’r safle ar ei newydd wedd, ac yn amlwg, wynebau plantos bach hapus iawn iawn.

Os am gysylltu â Miss Gayle ynglŷn â’r Cylch Meithrin dyma’r manylion: cylchmeithrintregaron@gmail.com