Dechrau mis Rhagfyr bu’r aelodau yn dysgu gwneud blychau adar o dan arweiniad Owain Pugh, a chardiau Nadolig efo Meinir Green. Cawsom noson hwylus efo’r aelodau yn dysgu sgiliau newydd. Diolch i’r ddau ohonynt.
Cynhaliwyd Cymanfa Garolau’r Frenhines a’r Ffarmwr Ifanc yng Nghapel Bethesda, Llanddewi Brefi nos Sul 15fed o Ragfyr efo tyrfa dda wedi troi allan ar y noson. Agorwyd y noson gan y Frenhines Mared Lloyd-Jones a’r Ffarmwr Ifanc Gwern Thomas. Mi gymerodd Meleri Morgan o Glwb Llangeitho, sydd yn un o ddirprwyon y sir, yr awenau gan arwain y noson yn hwylus iawn. Bu canu brwdfrydig yn y Capel o dan gyfeiliant Delyth Lloyd-Jones. Llywyddion y noson oedd Rhodri a Caryl Evans, a bu’r ddau yn sôn am eu profiadau hwy fel cyn aelodau o Glwb Llanddewi Brefi a Felinfach. Cafwyd eitemau gan CFfI Llanddewi Brefi a Felinfach a Bois y Rhedyn. Yn dilyn y carolau, cafodd pawb wahoddiad i’r Neuadd am luniaeth ysgafn, a gafodd ei weini gan y Frenhines, Ffarmwr Ifanc a’r dirprwyon. Diolch i bawb a fu’n brysur yn paratoi’r cacennau blasus. Mae elw’r noson yn mynd tuag at Ymchwil Cancr Cymru.
Ar nos Lun y 16eg o Ragfyr bu aelodau’r clwb allan yn canu carolau. Yr oedd yn noson arbennig, efo croeso cynnes gan deuluoedd yr ardal a ffrindiau’r clwb wrth iddynt fynd o amgylch Llanddewi Brefi a’r cylch. Mae’r arian a gafodd ei gasglu yn mynd tuag at Diffibriliwr newydd yn y pentref.
Hoffai CFFI Llanddewi Brefi ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.