Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi

Digwyddiadau’r Clwb gan Mari Edwards

Gemau noson social
Gemau noson social
Gemau noson social
Andrew-Treialon-cwn-defaid
Priodas-Daniel-a-Megan

Ysgrifenwyd gan Mari Edwards

Dechreuodd y flwyddyn newydd bant efo noson sosial ar y 12fed o Fedi.  Cafodd yr aelodau hwyl yng ngofal yr Arweinyddion yn chwarae gemau di-ri. Roedd y gemau yn agos tu hwnt, efo aelodau brwdfrydig iawn! Un gêm oedd yn boblogaidd iawn efo’r aelodau oedd y Wheel bender!  Pleser oedd gweld y neuadd yn llawn efo aelodau hen a newydd yn mwynhau yn yr hwyl a’r sbort. Croeso i’r aelodau newydd, ac rydym yn falch fod y clwb yn mynd o nerth i nerth.

Cawsom noson rownderi allan ar y cae chwarae, yr oedd yn gystadleuol iawn rhwng yr aelodau.  Roedd y rownderi yn cael eu sgorio un ar ôl y llall!  Yn dilyn y rownderi cafwyd cyfarfod oedd yn cynnwys trafodaeth am yr Eisteddfod, a fydd yn cael ei gynnal yng nghanol mis Hydref. Roedd llawer o ddiddordeb efo’r aelodau ac roeddynt yn barod i gystadlu.  Amser prysur o’n blaenau yn paratoi at y gwaith cartref a’r perfformiadau ar y llwyfan.

Roedd Angharad Evans yn rhan o dîm CFfI Cymru yn cystadlu yng nghystadleuaeth Stocmon Hyn y flwyddyn NFYFC ddechrau mis Medi yn Sioe Westmorland, Cumbria, yn barnu Stoc y Pum Gwlad.  Llongyfarchiadau iddi am ddod yn bedwerydd yn y gystadleuaeth, ac yn rhan o’r tîm buddugol.

Bu un o’n haelodau, Andrew Davies, yn rhedeg yn y treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol yn yr Alban ddechrau mis Medi.  Llongyfarchiadau iddo am ddod yn ail yn y gystadleuaeth triniwr ifanc.

Llongyfarchiadau i Megan Jenkins a Daniel Williams ar achlysur eu priodas ar y 7fed o Fedi yng Nghapel Shiloh, Llambed.  Mi fu rhai o aelodau’r Clwb, Osian Jenkins, Elis Hockenhull, Mari Edwards ac Angharad Lewis-Griffiths, yn dal y pigau wrth iddynt adael y Capel yn dilyn y gwasanaeth. Pob lwc iddynt i’r dyfodol.

Dweud eich dweud