Bethlehem

Perfformiad Tregaron

gan Eirwen James

Bethlehem
Dyma brofi nad peth i blant bach yr Ysgol Sul yn unig yw actio yn stori’r Geni. Syniad Gerald Morgan fu dod â chymuned  oedolion ardal Tregaron ynghŷd i berfformio cynhyrchiad dwyieithog o ddrama’r Geni. Mor ddiddorol oedd cyd-berfformio gyda phobol o bob cefndir a galwedigaeth a hynny i godi arian tuag at LATCH, Elusen Cancr Plant Cymru , Ysbyty’r Heath, Caerdydd.

Redd y perfformiad yn gyfuniad o’r Beiblaidd traddodiadol gyda gwedd fodern. Y milwyr Rhufeinig yn eu siacedi cuddliw a’u sbectolau haul a’r doethion o’r Dwyrain yn teithio ar eu beiciau modur yn lle camelod. Y prif gynhyrchydd oedd Gerald Morgan a’i dîm, – Ifan Gruffydd, Rhydian Wilson, John Jones, Rhian Dark ac Ifan Davies.

Crynhowyd yr hanesyn i berfformiad hanner awr a’i lwyfannu yng Nghapel Bwlchgwynt a Neuadd Goffa Tregaron.Daeth tyrfa dda ynghyd i wylio’r sioe gan sicrhau casgliad gwerth £1,249.80. Noddwyd y perfformiad gan Nwyddau Caron; Cacennau Gwen, Cig Oen Caron; D.I.Davies, Cigydd; Jos Jenkins a’i Feibion; Siop Rhiannon; Argraffwyr Lewis + Hughes;  Meddygfa Tregaron, Y Clwb Bowls; Plismyn Aberystwyth.

Dolch i Neli Jones am deipio’r rhaglen am ddim, i Weinidog a Blaenoriaid Bwlchgwynt am fenthyg y capel ac i David John Edwards, gofalwr y Neuadd Goffa, am  ei gymorth adeg yr ymarferion. Diolch hefyd i Gareth Jones am ofalu am y coffrau ariannol.

Blwyddyn Newydd Dda i chi

Dweud eich dweud