Trip MYW Tregaron

Cangen Tregaron ar grwydr.

gan Catherine Hughes
93236BA5-1E6E-48EB-9D8B
00789167-9D24-485B-B3C3

Wil y gyrrwr

Daeth Cangen MYW Tregaron i ben â threfnu’r trip blynyddol ar Sadwrn 30ain o Fedi, hwn oedd y peth olaf i swyddogion 2022/23 ei drefnu.

Gadawyd y Sgwâr a phawb yn awyddus i wybod ble y byddai Wil Lewis y gyrrwr yn mynd! Rhai yn disgwyl cael coffi yn Aberystwyth ac yna Machynlleth ond ymlaen aeth y bws nes cyrraedd Canolfan Grefftau Corris.

Wedi cael amser i gael coffi ac ymweld â’r siopau, ymlaen at Felin Meirion, Dinas Mawddwy. Cawsom ymweliad gan ein Llywydd Cenedlaethol, Geunor Roberts, diolch iddi am roi o’i hamser prin i ddod i ddweud helo!

Gwelsom Bont Minllyn oedd gerllaw cyn symud ymlaen i Eglwys hynafol St Tydecho, Mallwyd ble roedd Arfon Hughes yn ein disgwyl i rannu ei wybodaeth am yr ardal.

Erbyn hyn, roedd y tywydd wedi newid ac yn wlyb iawn! Er y glaw, cafwyd awr ym Machynlleth cyn symud ymlaen i Dreddôl lle mwynhawyd swper blasus yn y Wildfowler.

Dymuna Catherine, Ann ac Esyllt ddiolch i’r holl aelodau am eu cefnogaeth a dymuniadau gorau i swyddogion newydd 2023/24.