Swydd Newydd yn Ystrad Fflur -Y dyddiad cau 11 Medi

Swyddog Ymgysylltu ac Allgymorth Treftadaeth – Swydd Lawn Amser

gan Strata Florida Trust

Rydym yn recriwtio – Ymunwch â’n tîm yn Ystrad Fflur!

Swyddog Ymgysylltu ac Allgymorth Treftadaeth – Swydd Lawn Amser

Mae gan Ystrad Fflur hanes cyfoethog a diddorol. Helpwch ni i addysgu ac ysbrydoli ysgolion, grwpiau ac ymwelwyr fel ei gilydd, gyda hanes canoloesol, amaethyddol, cymdeithasol a mwyngloddio’r ardal. Disgrifiad swydd llawn ar gael ar ein gwefan.

jd_cymraeg_2.pdf (strataflorida.org.uk)

I wneud cais, e-bostiwch Carys Aldous-Hughes (Cyfarwyddwr Gweithredol YYF), gan atodi CV llawn; dau gyfeiriad (nodwch a ydych yn hapus i ni gysylltu â nhw cyn y cyfweliad); a dim mwy na dwy ochr A4 yn disgrifio’ch diddordeb yn y swydd.

Y dyddiad cau yw 11 Medi 2023. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Carys Aldous-Hughes carys.aldous-hughes@strataflorida.org.uk

Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Medi 2023 (dywedwch wrthym os bydd hyn yn anodd i chi). Gwahoddir yr ymgeisydd llwyddiannus i ddechrau ar y dyddiad cynharaf sy’n gyfleus i’r ddwy ochr.