Sioe a Sêl Mart Pontarfynach 06.12.2023

Mart Bridge- Calon Cymuned. Bob Dydd Mercher. Lle llawn cymeriadau!

Mari Davies
gan Mari Davies
IMG_3026

Mari Davies, Dolcoion

IMG_3027

Sion Griffiths, Nanty

IMG_3029

Tomos Hopkins, Ceunant

IMG_3028

Prys Lewis, Erwbarfe

IMG_3030

Mr. D Jerman wrthi yn beirniadu!

🐑✨Cafwyd Sioe a Sêl Dolig Mart Bridge Dydd Mercher diwetha,’ y 6ed o Ragfyr 2023.

Braf oedd gweld y Mart yn llawn unwaith eto.

Mr. D Jerman oedd yn beirniadu eleni.

Beirniadwydpum dosbarthh gyda 5 oen ym mhob pen i’w feirniadu.

Mae yna ddau gwpan wedi’u rhoi, sef cwpan her Hadau Oliver i’r dosbarth CFFI a chwpan Coffa Elwyn Jones Penllwynbedw i’r Brif Bencampwr.

Braf oedd gweld 9 aelod o’r Mudiad CFFI yn cystadlu gyda’i wyn- Chi yw dyfodol y farchnad!

Dyma pwy gafodd lwyddiant yn y Sioe eleni-

Wyn Cyfandirol 35kg+

1af- Lewis & Davies, Dolcoion
2il- Griffiths, Nanty
3ydd- Lewis, Sarnau

Wyn Cyfandirol 35kg

1af- Griffiths, Nanty
2il- Cruglas Farms
3ydd-Pantygamddwr

 Wyn Brodorol 35kg+

1af- Jones Lewis, Rhydygof
2il-Lewis & Davies, Dolcoion
3ydd- Griffiths, Nanty

Wyn Brodorol 35kg

1af- Lewis & Davies, Dolcoion
2il- Grace Evans, Penlan
3ydd Lewis, Erwbarfe

Dosbarth CFFI

1af- Mari Davies, Dolcoion
2il-Sion Griffiths, Nanty
3ydd- Angharad Davies, Brynglas

Prif Pencampwr 2023

Mari Davies, Dolcoion – Gwerthwyd yr Wyn am £150.00

Pencampwr wrth gefn 2023

 

Sion Griffiths, Nanty

Mart nesaf Dydd Mercher 13.12.2023