Paned a chlonc!

Cwrdd yn Festri I gymdeithasu

gan Catherine Hughes

Bore Llun agorwyd drws y Festri ym Mwlchgwynt i drigolion droi mewn i gael paned a chlonc.

Braf oedd cael cwmni a’r cyfle i ddod i adnabod pobol oedd wedi symud mewn i’r ardal.

Mwynhawyd tê a choffi ynghŷd â mins peis a biscedi.

Cafwyd y syniad wedi i’r Ganolfan Deulu lleol cynnal gweithgaredd a sbardynwyd rhai i fynd ati i gynnal rhywbeth gall bobol droi fynnu a mynd a dod fel a mynont.

Felly, byddwn yn cwrdd ar fore Llun o 10.30 ymlaen tan 12 i gael paned a chlonc, croeso cynnes i bawb!