Noson Lawen 10fed o Tachwedd

Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru Ystrad Fflur 2024

gan Mared Hopkins
IMG_9654
IMG_9633
IMG_9629

Cynhaliwyd cyngerdd Noson Lawen yn Neuadd Goffa Tregaron ar nos Wener, 10fed o Dachwedd, gydag Ifan Gruffydd yn arwain y noson. Cafwyd gwledd o ganu ac adloniant gan John ac Alun, Bois y Rhedyn a’r Pic-tôns o Ysgol Henry Richard yn diddanu gyda’u doniau canu ac actio.

I goroni noson arbennig gwnaeth Ifan Gruffydd sgets yn cynnwys Carlo y ci am Carlo yn cael ei ddysgu i redeg treialon gan un o aelodau’r pwyllgor Eirian Morgan– braf oedd clywed y Neuadd yn llawn chwerthin a phawb yn mwynhau.

Cafodd y noson ei threfnu gan bwyllgor Treialon cŵn defaid Cenedlaethol Cymru Ystrad Fflur 2024, sydd yn codi arian ar gyfer cynnal tri diwrnod o dreialon ar Fferm Dolyrychain, Pontrhydfendigaid ym mis Awst 2024.