Ar y llinell gychwyn, o’r diwedd!

Arwel yn barod i Farathon Llunden

Gwion James
gan Gwion James
Arwel Jones

Arwel Jones

Bydd Arwel Jones, Llainfflur, Tregaron yn cwblhau uchelgais mawr penwythnos hyn wrth redeg marathon Llunden.

Mae’r ras (Dydd Sul 23ain Ebrill) mor boblogaidd fel bod angen system balot er mwyn cael ennill eich lle ymysg y 42,000 yn y ras.

Mae’n anodd credu fod gan Arwel amser i baratoi am farathon gan fod yn cyfrannu gymaint yn lleol. Mae’n brysur fel Cynghorydd Tref, yn gyd-sylfaenydd y cwmni digwyddiadau chwaraeon Campau Caron ac yn amlwg gyda Chlwb Pêl-droed a’r Clwb Bowlio. Ond mae marathon Llunden wedi bod yn uchelgais ers amser.

“Dwi wedi trio balot marathon Llunden wyth gwaith felly o’dd e bach o sioc pan ges i’r newyddion mod i o’r diwedd wedi ennill fy lle.” meddai.
“Fi wedi bod yn dilyn cynllun ymarfer ers dachrau’r flwyddyn, ac erbyn hyn yn barod i fynd. Hwn yw fy marathon gyntaf felly dwi ddim am roi unrhyw bwyse’ ar yn hunan o ran amser- yr unig beth sy’n bwysig yw gorffen, a joio’r profiad,” ychwanegodd.

Bydd ei wraig Rhian ac Osian y mab ymhlith y miloedd fydd yn cefnogi ar strydoedd Llunden Dydd Sul, a bydd modd dilyn y ras ar y BBC.

Pob dymuniad da i Arwel ac i bawb arall sy’n cystadlu