Ym mis Mai, mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn cynnal digwyddiadau “Gwerin a Llwybrau Troed”. Os hoffech gael y cyfle i brofi perfformiad cerddoriaeth werin o dan fwa sistersaidd y 12fed Ganrif, o dan y Pererin, neu wrth ochr yr afon, wrth ddarganfod hanes y dirwedd hynod ddiddorol hon – ymunwch â ni ar 22 Mai.
Cyrsiau a digwyddiadau (strataflorida.org.uk)
—
Ymunwch â ni am y diwrnod i ymgolli yn hanes a diwylliant Ystrad Fflur.
Archwiliwch hanes cyfoethog y safle cyfareddol hwn ar droed, ar daith gerdded dywys dan arweiniad Arfon Hughes, a chael eich cyfareddu gan berfformiadau gwerin gan Owen Shiers, gan dynnu ysbrydoliaeth o’n tirwedd hynafol.
—–
Canwr gwerin, cyfansoddwr a hanesydd cymdeithasol o Orllewin Cymru yw Owen Shiers. Trwy ei waith y mae’n ceisio rhoi llais cyfoes i dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Ceredigion. Mae ei brosiect canu gwerin ‘Cynefin’ wedi derbyn tipyn o ganmoliaeth, ac mae hefyd yn teithio gyda’r sioe hawliau tir ‘Gafael Tir’.
Pan nad yw’n twrio mewn llyfrgelloedd ac archifau, neu’n yn crwydro’r sir, y mae’n tyfu ceirch Cymreig traddodiadol fel rhan o’r gydweithfa grawn Llafur Ni.
—
Wedi’i leoli yn y Canolbarth Cymru, mae Arfon Hughes yn darparu gwasanaeth tywys twristiaeth proffesiynol, ac mae ganddo frwdfrydedd gwirioneddol dros bopeth Cymraeg.
Mae Arfon yn siarad Cymraeg brodorol, ac fe’i ganed i gefndir amaethyddol yng nghefn gwlad Gogledd Cymru. Mae’n aelod o Orsedd y Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Cymru am ei waith yn Ninas Mawddwy.
Mae prif ddiddordebau Arfon yn hanes cymdeithasol, hanes Cymru, amaethyddiaeth y celfyddydau, y cyfryngau a’r diwylliant – Cymru yw ‘Gwlad y Gân’; yn straeon pobl, cerdded yn nhirwedd rhyfeddol Cymru a’i bioamrywiaeth.
info@strataflorida.org.uk