Hanes Sioe Bwlch-Llan

Pwt o hanes sioe y pentref eleni

gan Meleri Morgan
20230902_163507

Yn flynyddol caiff Sioe Bwlch-Llan ei chynnal ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Medi.

Pleser oedd gweld y festri a thu allan yn llawn cynnyrch lleol.

Roedd dros 100 o bethau amrywiol wedi dod i’r sioe.

Roedd yr heulwen yn gwenu arnom a thipyn o bobl wedi dod ynghyd.

Croesawodd Meirian pawb i’r sioe ag agorwyd y sioe yn swyddogol gabnCeris Jones ein cynghorydd lleol.

Talwyd y diolchiadau gan Meira

Sefydlwyd gwobr arbennig llynedd i’r sioe. Gwobr er cof am Polly Morgan. Roedd y sioe yn hynod bwysig iddi ac y bu yn gadeirydd am flynyddoedd ac yn llywydd anrhydeddus yn ei blynyddoedd olaf.

Mae’r wobr yn mynd i’r person a oedd wedi dod â’r nifer ucha’ o eitemau.

Elin Calan Jones oedd yr ennillydd eleni gyda 49 eitem gwahanol.

Edrychwn ymlaen i groesawi pawb y flwyddyn nesaf!

Dyma luniau o rai o’r prif ennillwyr.