Eliffant yn y Sioe Frenhinol!

Ffermwyr Ifanc Tregaron yn paratoi at Lanelwedd

Gwion James
gan Gwion James
Criw Buddugol CFFI Tregaron yn Rali Ceredigion

Criw Buddugol CFFI Tregaron yn Rali Ceredigion

Cari Davies, Jwmbabi a'r Clwb yn ddathlu llwyddiant y Rali

Cari Davies, Jwmbabi a’r Clwb yn ddathlu llwyddiant y Rali

Creu Jwmbabi

Creu Jwmbabi

Yn ogystal â gweld anifeiliaid fferm gorau’r wlad yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd, eleni bydd cyfle i weld Jwmbabi- yr Eliffant enwog o Dregaron!

Yn dilyn llwyddiant Clwb Ffermwyr Ifanc Tregaron yn Rali’r Sir ym mis Mai, mae nifer o’r aelodau yn paratoi i gynrychioli’r Sir ar lefel Genedlaethol yn Llanelwedd. Bydd Jwmbabi yn rhan o gystadleuaeth y ‘Prif Gylch’ fydd am 4 o’r gloch Ddydd Lun yn nghylch y gwartheg. Mae cyflwyniad ‘Y Syrcas’ gan Tregaron yn llawn hwyl a lliw, ac yn siwr i roi sioc i’r gynulleidfa!

Yn ogystal, mae’r clwb yn rhan o nifer o gystadlaethau ym mhafiliwn y Ffermwyr Ifanc ar y maes.

Dydd Llun am 9 o’r gloch, Trefnu Blodau-

Cari Davies

Dydd

Mawrth am 1 o’r gloch-  Dawnsio

Dydd Mercher am 9 o’r gloch, Crefft, Delun Davies

Dydd Mercher am 11 o’r gloch- Ail Greu Pennod o Raglen Deledu/Ffilm

Hefyd, yn yr ardal Goedwigaeth am 1 o’r gloch Dydd Iau bydd Emrys Jones a Jac Jenkins yng nghystadleuaeth Gwaith Coed i aelodau Iau.

Mae Nerys Williams, un o arweinwyr gweithgar y clwb yn edrych ’mlan “Ni’n falch ofnadw o lwyddiant y Clwb yn Rali’r Sir, yn enwedig gan fod y mwyafrif yn aelodau Iau,” meddai. “Ni’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth barod arweinwyr y clwb a rhieni, a gobeithio bydd pawb yn mwynhau eu hamser yn y Sioe yn Llanelwedd,” ychwanegodd.

Wrth gwrs, gan fod CFFI Tregaron wedi ennill y Rali eleni, nhw fydd yn cynnal y Rali yn 2024. Y tro diwethaf i Dregaron gynnal y Rali oedd yn 2017, pan gafwyd digwyddiad llwyddiannus iawn ar Fferm Dolyrychain, Pontrhydfendigaid, â chlwb CFFI Felinfach yn fuddugol. Bydd CFFI Tregaron yn siŵr o alw ar aelodau hen a newydd i gydweithio wrth baratoi i groesawu’r Sir yn ôl i Rali Tregaron 2024.