Cwpan Y Byd Arwyn

Adolygu prif gystadleuaeth Rygbi’r Byd

Gwion James
gan Gwion James
Arwyn Morgan

Arwyn Morgan

Yng nghanol cyffro cystadleuaeth Cwpan Y Byd Rygbi aeth Caron360 i siarad gyda cyn chwaraewr ac erbyn hyn rheolwr Clwb Rygbi Tregaron- Arwyn Morgan. Gan drafod perfformiadau rhai timoedd mor belled, bu Arwyn hefyd yn rhagweld cwrs y gystadleuaeth o hyn ymlaen-a gobeithion tîm Cymru! Dewisodd y timoedd bydd yn ei farn ef yn cyrraedd y rownd gynderfynol a’r tîm buddugol!

Ychwanegodd Arwyn fod cystadleuaeth Cwpan Y Byd wedi creu bwrlwm ychwanegol yn y Clwb Rygbi dros yr wythnosau diweddar, a bod awyrgylch da pan fod y gemau ar y teledu. Yn ogystal â Rygbi mae pob math o chwaraeon a mwy ar gael i’w wylio yn y Clwb Rygbi- dilynwch y dudalen facebook ‘Clwb Rygbi Tregaron’ ar fwy o wybodaeth.