“Cadw Trysor yng Ngheredigion” dywed Cyfeillion yr Amgueddfa
Mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion yn codi £4,200 i gadw celc o bwysigrwydd cenedlaethol o waith metel o’r Oes Efydd yng Ngheredigion. Darganfyddiad cyffrous o dros hanner cant o ddarnau efydd o offer, arfau ac addurniadau corff. Darganfyddwyd hwy gan y ganfodydd metel Craig Hearne a Kieran Slade yn Llangeitho yn 2020.
Mae’r darganfyddiad yma yn un hollol unigryw a datganwyd gan y Crwner fod y darganfyddiad yma’n drysor o dan y Ddeddf Trysor, ac mae Amgueddfa Ceredigion wedi cael y cyfle i brynu’r celc os gellir codi’r arian. Mae celciau o’r Oes Efydd yn eithriadol o brin yng Ngheredigion, gan mae dim ond dau annelwig o adroddiadau hanesyddol o ddarganfyddiadau o’r fath sydd erioed wedi’u cofrestru’n flaenorol. Mae’r darganfyddiad yn cynnig dealltwriaeth newydd bwysig o’r arddulliau a’r traddodiadau gwaith metel yng Ngheredigion tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae eu claddu yn cynrychioli cynulliad sylweddol o bobl, yn dewis rhoi eu gwrthrychau efydd gwerthfawr i’r ddaear, yn ôl pob tebyg fel mynegiant o gredoau crefyddol dwfn.
Bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn ymchwilio ymhellach i’r man lle darganfuwyd y gelc ar ôl i’r darganfyddiadau gael eu hystyried fel trysor, ac fe ddarparwyd cyllid argyfwng tuag at y gwaith hwn gan Cadw.
Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Rydym yn gyffrous iawn am y digwyddiad a’r gobaith o ychwanegu’r darganfyddiadau unigryw a hynod bwysig hyn at gasgliad yr amgueddfa. Hoffwn ganmol Craig a Kieran am eu hymyliad o gadw at yr arfer da ar gyfer canfod eitemau metel, fel y gall cymaint o wybodaeth am ein cyndeidiau cyn-hanesyddol cael eu casglu o’u darganfyddiad. Hoffwn hefyd ddiolch i Gyfeillion Amgueddfa Ceredigion am gamu i fewn i godi arian er mwyn prynu’r trysor, ac mi fyddaf yn croesi fy mysedd bod eu hymdrechion diflino i gadw’r trysor unigryw hwn yng Ngheredigion yn dwyn ffrwyth.”
Dywedodd Bronwen Morgan, Llywydd Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion: ” “Newyddion cyffrous am ddarganfyddiad unigryw a phrin yng Ngheredigion o’r Oes Efydd. Mae’n drysor yng nghwir ystyr y gair ac rydym yn awyddus i gadw’r trysor yma yng Ngheredigion . Rydym yn erfyn am gymorth ariannol i sicrhau ein bod ni a’r cenedlaethau i ddod yn medru cadw, gweld a gwerthfawrogi ein treftadaeth yng Ngheredigion. Y mae’r eitemau wedi bod yng Ngheredigion ers tua 3,000 o flynyddoedd ac awn ati nawr i sicrhau eu bod yn aros yma.”
I gyfrannu at y gronfa i brynu’r trysor ewch i https://gofund.me/431f94bf neu wefan Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion ar www.friendsofceredigionmuseum.com
Tybed pa rai o’n cyndeidiau ni oedd yn gyfrifol am eu claddu? Mae’n rhan anatod o’n hetifeddiaeth ac mae angen iddo gael ei rannu, ei fwynhau, a’i ddiogelu yn lleol.