Bwlchllan yn diolch

Y gymuned gyfan yn diolch a mwynhau

Gareth Huw Davies
gan Gareth Huw Davies

Cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch cymunedol dwyieithog ym Mwlchllan ar y 22fed o Hydref. Pob cymdeithas yn y gymuned yn cymryd rhan yn y gwasanaeth a oedd yng ngofal y Gweinidog, Y Parch Carwyn Arthur. Gwledd o gawl a phwdin reis yn dilyn y Gwasanaeth a phawb o’r ieuengaf i’r hynaf yn mwynhau “mas draw” fel mae’r lluniau yn dangos.