Wil yn Bencampwr Prydain

Tlws Rasio Glas yn dod i Dregaron

Gwion James
gan Gwion James
Wil Evans, Pencampwr Prydain 2023

Wil Evans, Pencampwr Prydain 2023

Wil ar Ras!

Wil ar Ras!

Wil Evans, Garreg Lwyd, Tregaron yw pencampwr Rasio Glas (Autograss) o dan 16 oed Prydain yn 2023.

Mae Rasio Glas yn ddiddordeb mawr i’r teulu, sydd o ddydd i ddydd yn rhedeg cwmni bysus Evans Tregaron. Bu tad Wil – Emyr Evans a’i ewythr Rhydian yn rasio ers blynyddoedd. Mae brawd iau Wil – Iago hefyd yn gystadleuol ar lefel cenedlaethol. Mae’r teulu yn perthyn i Glwb Rasio Glas Teifi, sydd a’i trac ym Mhentywyn ac maen’t yn teithio o amgylch Prydain ac Iwerddon yn ystod misoedd yr haf i wahanol rasus.

Mae rasio glas yn boblogaidd iawn ac mae’r cyfarfodydd yn denu cannoedd o geir bob tro. Mae dros 10 gwahanol ddosbarth o geir yn ôl ei maint a’i pŵer – y dosbarth Junior Saloon sef ceir hyd at 1000cc daeth a llwyddiant i Wil.  Roedd pum cymal i gystadleuaeth Prydain, a Wil gafodd y nifer fwyaf o bwyntiau dros y gyfres yn Sir Efrog, Scunthorpe, Gwlad yr Haf, Marlow ac ‘adref’ ym Mhentywyn.

Roedd Wil yn ddiolchgar am help eraill i ennill y Bencampwriaeth ” Fi’n ddiolchgar i Mam a Dad ac eraill am baratoi’r car ac ein dreifio ni rownd y wlad i’r rasus” meddai. “Fi’n edrych mlan i dymor nesa, er mwyn cael rasio unwaith eto a gobeithio amddiffyn y tlws” ychwanegodd.

Mae’n bosib gweld uchafbwyntiau rhai o rasus Wil ar S4C Clic https://www.s4c.cymru/clic/programme/876893195

Pob dymuniad da i’r dyfodol i Wil ac Iago yn Rasio Glas!