Beicio i Daclo Tri Chopa Cymru

Her i fois Clwb Rygbi Tregaron!

gan Lynet Pugh
IMG_9583

Barod amdani !

WhatsApp-Image-2023
IMG-20230814-WA0008
IMG-20230814-WA0007

Ar ddydd Iau, Awst 17eg, bydd chwech o chwaraewyr Tîm Rygbi Tregaron yn dechrau ar eu her i gerdded tri chopa Cymru – Yr Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan. Bydd Geraint Jones, Geraint Rowlands, Dorian Pugh, Dewi Jones, Martyn Lloyd a Llyr Ebenezer yn cyflawni’r her drwy feicio o un mynydd i’r llall cyn beicio nôl i glwb Rygbi Tregaron ar gyfer Ocsiwn, Cerddoriaeth Fyw a Barbeciw ar nos Sadwrn, Awst 19eg am 7yh. Mae eeitemau a hanner i’w cael yn yr ocsiwn, felly galwch mewn i’n gweld.

Maent yn ymgymryd â’r her galed hon i godi arian ar gyfer dwy elusen arbennig: Ambiwlans Awyr Cymru ac Apêl Cemotherapi Bronglais. Dwy elusen bwysig iawn i’r bechgyn.

Noddir y cit gan Duoskip, NFU, Hefin Morgan Steel Framed Buildings, Clwb Rygbi Tregaron; Morfa Farm; DAG Jones & Son Auctioneers and Pencefn Feeds. Mae hefyd modd noddi’r bechgyn trwy dudalen JustGiving ble mae ganddynt darged o £3,000.

https://www.justgiving.com/crowdfunding/beicio-i-daclo-3-chopa-cymru?utm_term=JVVxq8b63